“Denu pawb” – dyna yw nod gŵyl Gymraeg newydd yng Nghaerfyrddin, yn ôl un o’r trefnwyr.

Bydd Gŵyl Canol Dre yn cael ei chynnal am y tro cyntaf ym Mharc Myrddin yfory.

Ac yn ôl Dewi Snelson, Prif Weithredwr Menter Iaith Gorllewin Sir Gâr, mae’r trefnwyr yn gobeithio denu pobol o bob oedran – Cymraeg a di-Gymraeg.

“Rydan ni wedi trio rhoi digon o weithgareddau gwahanol ymlaen sy’n plesio plant bach a’r oedolion,” meddai wrth golwg360. “Mae yna rywbeth i bawb yma…

“Mae o i gyd am ddim, a’r gobaith ydy bod o ddim yn cau’r drws ar neb. Ac felly’n cyflwyno’r Gymraeg i bobol sydd ddim yn dod i bethau fel hyn fel arfer.”

Yr ŵyl

Bydd 50 o weithgareddau gwahanol yn cael ei gynnal yn yr ŵyl, ac mae disgwyl y bydd disgyblion o 17 ysgol yn perfformio.

Bydd stondinau bwyd, bar a llwyfannau yno, lle fydd bandiau, actorion a dawnswyr yn perfformio.

O ran gweithgareddau, mi fydd gweithdai blogio a Minecraft (gêm gyfrifiadurol), ac mi fydd parcio am ddim yn y dre yn ystod yr ŵyl.