Cyfrol gyntaf o farddoniaeth yr Athro Peredur Lynch sydd wedi ei dewis y llyfr gorau ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2018, yn ôl pleidlais ar wefan golwg360.

Y gyfrol Caeth a Rhydd (Carreg Gwalch) gan y darlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor, sy’n derbyn darn o waith celf gwreiddiol gan Tomos Sparnon, myfyriwr yn Adran Gelf, Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant.

Fe enillodd Peredur Lynch gadair Eisteddfod yr Urdd yn 1979, ond ar ôl rhai blynyddoedd o beidio cynhyrchu “rhyw lawer o ddim”, fe dreuliodd fisoedd ym Mhrifysgol Harvard yn yr Unol Daleithiau yn cwblhau’r gyfrol hon. Roedd hynny’n golygu casglu cerddi o’r 1980au ymlaen, ynghyd ag ysgrifennu rhai newydd sbon.

Mae hefyd yn cydnabod fod colli ei dad wedi bod yn ysbrydoliaeth iddo ail-ddechrau cyfansoddi. Cyfres o ddeg cerdd i’w ddiweddar dad, Evan Lynch, sy’n agor y gyfrol.