Gwallgofrwydd, herwgipio, maffia o Albania a’r Gymru ôl-ddiwydiannol. Dyna rai o’r prif elfennau yn nofel dditectif gynta’r awdur a’r darlledwr, Jon Gower, sydd wedi dioddef o’r “Brexit blŵs” yn ystod y ddwy flynedd ddiwetha’.

Mae Jon Gower yn dweud mai ei “iselder ysbryd” yn sgil y refferendwm ar Brexit yn 2016 yw sylfaen Y Düwch, sy’n dilyn hanes dau dditectif ar drywydd gwallgofddyn yn ardaloedd Cynffig a Llansamlet yn ne Cymru.

“Yn y cyfnod yn arwain at y refferendwm, mi wnes i gymryd newyddiadurwr, sef cyfaill i mi o Bortiwgal, o gwmpas i helpu fe i gwrdd â phobol ac i helpu fe i ddeall Cymru…” meddai’r awdur wrth golwg360.

“Yn y cyfnod yna, roeddwn i’n teimlo bod Cymru ei hunan yn fy ngadael oherwydd roedd y ffordd wnaethom ni bleidleisio yn debyg i Loegr yn tanlinellu’r ffordd Brydeinig ry’n ni’n medru bihafio o ran etholiadau, ac o ran y cyfryngau ry’n ni’n darllen.”

Mae’r newyddiadurwr o Lanelli hefyd yn dweud bod modd olrhain yr elfen o “wallgofrwydd” yn y nofel i’r ffaith bod Donald Trump yn Arlywydd yr Unol Daleithiau – “yr egotist sy’n ddiffygiol ym mhob ffordd,” meddai.

“Gyda hynny fe cefnlen i bethau, does dim rhyfedd bod y nofel tamed bach yn wallgo’, achos mae’r byd yn wallgo’.”

Amddiffyn y tywyllwch

Er bod Jon Gower yn cyfaddef bod cynnwys y nofel yn “ddu”, fel y mae’r teitl yn awgrymu, meddai, mae’n mynnu bod rhaid cael “popeth yn Gymraeg” – y gobeithiol a’r anobeithiol.

“Dw i’n gwybod y bydd cynnwys y llyfr nid yn unig ddim yn plesio pobol, ond yn gwneud i bobol ddodi’r llyfr i lawr, achos mae e mor ddu â hynny,” meddai eto.

“Ond eto, wedi dweud hynny, dw i’n teimlo bod rhaid inni gael popeth yn Gymraeg. Maen rhaid inni gael beirdd tywyll yn ogystal â beirdd clir, ac yn yr un ffordd rydych chi’n disgwyl yr un peth gyda rhyddiaith.”

Dyma’r awdur ei hun yn adrodd darn o’r nofel…