Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn chwilio am gyfansoddwyr ac awduron i baratoi sioe gerdd i ddathlu un o gampweithiau llenyddol mwyaf Kate Roberts.

Y bwriad yw i Gôr yr Eisteddfod lwyfannu’r perfformiad o Te yn y Grug yn y Brifwyl yn Llanrwst y flwyddyn nesaf – 60 mlynedd ers cyhoeddi’r gyfrol o straeon byrion.

“Mae Te yn y Grug wedi cyfareddu cenedlaethau o ddarllenwyr, ac mae hwn yn gyfle cyffrous i ail-ddehongli a chymryd ysbrydoliaeth o’r gyfrol,” meddai llefarydd ar ran yr Eisteddfod.

“Y gobaith yw cyflwyno Begw, Wini Ffinni Hadog a chymeriadau eraill i gynulleidfa a chenhedlaeth newydd, a hynny drwy lygaid pobol Sir Conwy, gan ddysgu mwy am dreftadaeth yr ardal a’r cyfnod.”

Y dyddiad cau i’r rheiny sydd â diddordeb mewn ceisio am y comisiwn yw Mehefin 29.