Bachgen o’r Felinheli yw enillydd Cadair Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed.

Mae Osian Owen yn gyn-ddisgybl yn Ysgol y Felinheli, Ysgol Syr Hugh Owen ac Ysgol Glanaethwy, ac ar hyn o bryd mae yn ei drydedd flwyddyn yn astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.

O fis Medi ymlaen, fe fydd yn dilyn cwrs Ysgrifennu Creadigol yn y brifysgol honno.

Osian Owen oedd enillydd y Goron a’r Gadair yn yr Eisteddfod Rhyng-golegol yn Llanbedr Pont Steffan eleni.