Bu farw’r bardd a’r academydd, Meic Stephens, yn 79 oed.

Roedd yn hanu o bentre’ Trefforest ger Pontypridd, ac fe astudiodd ym mhrifysgolion Aberystwyth, Bangor a Rennes cyn troi at ddysgu Ffrangeg am gyfnod.

Sefydlodd y cylchgrawn Poetry Wales a’r gwasgnod Triskel ym Merthyr Tudful yn ystod yr 1960au, a rhwng 1967 a 1990 roedd yn Gyfarwyddwr Adran Lenyddiaeth, Cyngor Celfyddydau Cymru.

Ef oedd yn gyfrifol am ysgrifennu erthyglau coffhad am bobol o Gymru i bapur newydd The Independent, a chyn ymddeol bu’n ddarlithydd Newyddiaduraeth ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Morgannwg.

Meic Stephens hefyd oedd golygydd dwy gyfrol o’r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.

Roedd ef ei hun wedi dysgu Cymraeg yn oedolyn, a bu’n aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg a Phlaid Cymru, a ef oedd yn cael y clod am baentio slogan enwoca’r iaith Gymraeg – ‘Cofiwch Dryweryn’ ar y wal ger pentref Llanrhystud.

Daeth yn agos at ennill coron yr Eisteddfod Genedlaethol sawl gwaith, ac roedd yn adnabyddus am gyfansoddi cerddi yn nhafodiaith y Wenhwyseg.

Bydd yn gadael pedwar o blant, yn cynnwys y cyflwynydd radio, Huw Stephens.