Mae un o ffrindiau penna’r diweddar Emyr ‘Oernant’ Jones yn dweud y bydd yn ei gofio fel “cymeriad caled oedd â chalon feddal”.
Yn ôl y Prifardd Idris Reynolds, a fu’n cyd-dalyrna a chyd-ymrysona ag ef am flynyddoedd, roedd y bardd o gyrion tref Aberteifi yn “llenwi’r stafell”, gyda’r “cwbwl yn troi o’i amgylch e”.
“Dw i’n cofio cwrdd ag e gyntaf yn nosbarth Roy Stephens yn 1985, a da’th e miwn yn sydyn i’r dosbarth, a bu’r dosbarth byth yr un perth ers hynny,” meddai wrth golwg360.
“Roedd e’n gymeriad cryf iawn. Roedd e’n gymeriad caled, ond roedd yna galon feddal iawn yna hefyd. Roedd yn deimladwy iawn.”
‘Mae drudwns yn y coed’
Wrth ei gofio fel bardd, mae Idris Reynolds yn dweud ei fod yn “gywyddwr medrus iawn”, gyda’i brif themâu yn cwmpasu “ffermio a chefn gwlad.”
Bu hefyd yn rhan o ambell dro trwstan, ac mae ei gyfaill yn cofio am un yn benodol a oedd yn ymwneud â drudwns.
“Roedd Emyr yn ffarmwr mowr, ac roedd ganddo fe fuches fowr a oedd yn croesi’r hewl, ac roedd yr hewl ddim mor lân ag y dyle hi fod,” meddai.
“Ac fe ddigwyddodd ddamwain pan ddaeth rhywun ar fotor-beic a llithro ar y dom…”
“Fe fu achos llys wedyn, ac roedd Arwel [Jones] ei gefnder yn ei amddiffyn e, ac roedd e’n beio’r drudwns.
“Y drudwns ga’s y bai, ac mae’n debyg iddo fe ddod yn rhydd o garchar oherwydd hynny!”
Dyma Idris Reynolds yn darllen englyn o waith Emyr ‘Oernant’ yn disgrifio’i hun…
https://soundcloud.com/golwg-360/teyrnged-idris-reynolds-i-emyr-oernant