Mae un o gyfeillion y diweddar Emyr ‘Oernant’ Jones yn dweud bod ganddo ddigon o “gyfoeth” o gerddi i greu cyfrol.

Wrth dalu teyrnged i’w chyd-aelod yn nhîm talwrn Tan-y-groes, mae Phillipa Gibson yn dweud bod gan y bardd a’r ffermwr “ddawn arbennig”.

“Roeddwn i’n mynd trwy rai o’i gerddi fe gydag e yn ddiweddar, ac mae jyst cyfoeth o bethau yno am fyd amaeth a ffermio, ac am fyd natur,” meddai wrth golwg360.

“Roedd yn bendant ddawn arbennig gydag e i ddal y naws yna, a’i gariad at y tir.

“Efallai ei fod yn rhy gynnar [i greu cyfrol], ond mae hen ddigon o gyfoeth o gerddi yna, achos ei fod e wedi bod yn sgwennu am gymaint o amser, a sgwennu pethau da aruthrol.”

“Cofio’i garedigrwydd”

Yr atgof cyntaf amdano sydd gan Phillipa Gibson, meddai, yw ei “garedigrwydd”, a hynny pan ymunodd â’r tîm bron i bymtheg mlynedd yn ôl.

“Dw i’n cofio pan ymunes i â’r tîm, ro’n i’n gwybod bron dim am farddoniaeth gynganeddol,” meddai eto.

“Roedd e jyst mor gefnogol ym mhopeth – yn helpu, awgrymu newidiadau, ond bron byth yn beirniadu.

“Roedd e wastad yn clywed cerddoriaeth cerddi; roedd hynny’n bwysig iawn iddo fe, bod rhywbeth yn canu.”

Bu farw Emyr ‘Oernant’ Jones yn 86 oed yn ei gwsg nos Lun, a hynny ar ôl bod yn llwyddiannus mewn gyrfa chwist leol.