Mae’r bardd a’r awdur Myrddin ap Dafydd yn dweud bod yna “beryg” i’r Cymry anghofio pa mor Gymreig yw ardal y Gororau.

Yn ei lyfr newydd, Y Gororau – gwlad rhwng gwledydd, mae’n dweud bod gan yr ardal ei nodweddion ei hun ond yn mynnu bod yna “groeso” i’r Gymraeg yno o hyd.

“Mae yna Gymreictod cryf iawn yna… a chyfeillgarwch hefyd,” meddai wrth golwg360.

“Mae rhywun yn disgwyl mewn ardal ffin weithiau bod yna gofio am hen ryfeloedd, hen ymrafael.”

Chwalu syniadau arferol

Wedi bod yn teithio o amgylch ardaloedd y ffin, mae’n dweud ei fod eisiau i’r llyfr chwalu rhai o’r syniadau arferol am yr ardaloedd hynny.

“Roedd yna groeso cynnes iawn, iawn, ac ymwybyddiaeth wedyn bod y Gymraeg a Chymreictod wedi bod yn yr ardal yna, a bod eu dylanwad yno o hyd,” meddai.

Un enghraifft, meddai, oedd twf ysgolion cyfrwng Cymraeg fel Ysgol Gymraeg Y Fenni – sydd â thua 250 o ddisgyblion.

“Mae o’n bersbectif pwysig i’n Cymreictod ni,” meddai eto.

“Rydan ni’n meddwl am Glawdd Offa – yr ochor yma i Glawdd Offa a’r ochor draw i Glawdd Offa. Ond mae’n llawer mwy llwyd na hynny. Nid lein ar fap ydi ffin.”

https://soundcloud.com/golwg-360/myrddin-ap-dafydd-y-gororau/s-rG9yb