Mae cyn-gomisiynydd rhaglenni comedi ITV yn dweud ei bod yn “bwysig” bod llenyddiaeth ysgafn ar gael yn Gymraeg.

Mae Sioned Wiliam, sydd erbyn hyn yn comisiynu rhaglenni comedi ar gyfer BBC Radio 4, wedi cyhoeddi tair nofel Gymraeg hyd yn hyn, ac mae’r ddiweddaraf, Cicio’r Bar, yn portreadu bywyd myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth ddechrau’r 1980au.

Mae’r nofel, sy’n dilyn hynt y cymeriadau Delyth, Anwen a Nia, yn ddilyniant i‘w nofel ddiwethaf, sef Dal i Fynd, ac mae’n olrhain y profiadau hynny a wnaeth cymeriadau’r ail nofel yn hyn ydyn nhw.

Ond mae Sioned Wiliam yn mynnu mai “nofel ysgafn” yw Cicio’r Bar, a’i bod hi yn hyn o beth yn dilyn yn ôl traed ei thad, sef y llenor a’r dramodydd, Urien Wiliam.

“Nofel ysgafn yw hi fod,” meddai wrth golwg360, “y math o beth y byddech chi’n mynd ag e ar eich gwyliau ac eistedd ar bwys y pwll nofio er mwyn ei fwynhau e.

“Roedd fy nhad yn gredwr mawr bod ishe llên ysgafn yn y Gymraeg,” meddai wrth golwg360, “ac roedd e’n sgwennu llyfre ditectif a llyfre doniol. A dw i’n hapus iawn i fod yn y traddodiad yna.”

Profiad personol?

A hithau ei hunan yn gyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae Sioned Wiliam yn dweud bod yna “ambell beth” o’i phrofiad personol yn ymddangos yn y nofel, gan gynnwys y gigs, y tafarndai ac ambell brotest.

Er hyn, mae’n mynnu nad yw hynt y tair cymeriad yn “adlewyrchu fy mhrofiad i [yn Aberystwyth]”, fel y mae’n sôn yma…

Fe fydd y gyfrol yn cael ei lansio ar Fai 12 yng Nghaffi Iechyd Da, Caerfyrddin, lle bydd yr actores Rhian Morgan, a oedd yn cyd-letya â’r awdures yn Neuadd Pantycelyn, yn darllen darnau o’r nofel.