Mi fydd Gŵyl Llên Plant Caerdydd yn dychwelyd i brifddinas Cymru eto eleni, gyda’r nod o ysbrydoli’r genhedlaeth newydd i ddarllen.

Bydd yr ŵyl yn digwydd dros ddau benwythnos (Ebrill 21/22, ac Ebrill 28/29), ac mi fydd ei digwyddiadau amrywiol yn cael eu cynnal ledled y ddinas.

Ymhlith y digwyddiadau dwyieithog bydd parti Harry Potter yn Neuadd y Ddinas, a sesiwn amser stori gyda’r arth ddychmygol, Paddington.

Mae’r ŵyl hefyd yn gobeithio nodi canmlwyddiant mudiad y swffragetiaid, ac felly mi fydd sawl gwestai “benywaidd ysbrydol” yn cymryd rhan, yn ôl y trefnwyr.

Y “mwyaf erioed”

“Mae gŵyl 2018 yn argoeli’n arbennig wrth i ni goffau 100 mlynedd ers mudiad y swffragetiaid gyda llu o awduron benywaidd ysbrydoledig,” meddai’r Cynghorydd o Gaerdydd, Peter Bradbury.

“[Bydd] sesiynau ysgol am ddim a digwyddiadau cyhoeddus gwych i blant o bob oed, o’r babanod i’r rhai yn eu harddegau, [ac] rydym yn gobeithio sicrhau mai gŵyl eleni yw’r fwyaf erioed.”