Fe fydd y rhifyn olaf o’r cylchgrawn cerddoriaeth NME yn cael ei gyhoeddi ddydd Gwener (Mawrth 9), yn ôl y cyhoeddwr Time Inc.

Mae’r cwmni’n dweud nad yw’n bosib parhau i’w argraffu’n rheolaidd am resymau ariannol, ond y bydd yn parhau i argraffu rhifynnau arbennig yn achlysurol.

Daw’r cyhoeddiad wythnos yn unig ar ôl i’r golygydd, y Cymro Cymraeg Mike Williams gyhoeddi ei fod yn rhoi’r gorau i’r swydd.

Fe fydd NME bellach yn canolbwyntio ar ddatblygu ei adnoddau ar-lein, a fydd yn cynnwys sianeli teledu newydd a chyhoeddiad wythnosol ar-lein, The Big Read, yn disodli’r cyfweliad wythnosol ar glawr y cylchgrawn.

Cafodd NME ei gyhoeddi am y tro cyntaf yn 1952, ac mae wedi bod ar gael yn rhad ac am ddim ers 2015.

Dywedodd cyfarwyddwr digidol NME, Keith Walker fod y datblygiadau’n “rhoi mwy o’r hyn y mae cwsmeriaid ei eisiau iddyn nhw”.