Mae darlithydd Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor wedi cyrraedd rhestr hir gwobr lenyddol y Sunday Times EFG ar gyfer stori fer.

Mae Lisa Blower ymhlith unarddeg o enwau ar y rhestr a allai ennill y wobr o £30,000 – y wobr fwyaf hael ar gyfer stori fer yn Saesneg.

Mae’r wobr yn dathlu rhagoriaeth y stori fer fodern.

Enillodd hi wobr debyg yn y gorffennol, gan ddod i frig cystadleuaeth y Guardian yn 2009, a chael ei chynnwys ar restr fer Gwobr Stori Fer y BBC yn 2013.

Cafodd hi gymeradwyaeth uchel hefyd a lle ar restr fer Gwobr Bridport dair blynedd yn olynol.

Mae ei gwaith wedi ymddangos yn y Guardian, Comma Press, The New Welsh Review, The Luminary, Short Story Sunday, ac ar Radio 4.

Cafodd ei nofel gyntaf, Sitting Ducks (Fair Acre Press) ei gosod ar restr fer gwobr Arnold Bennett 2017, a’i gosod ar y rhestr hir gwobrau The Guardian Not the Booker 2016, y Rubery Award 2016 a The People’s Book Prize 2016.

Hi oedd awdur preswyl cyntaf Amgueddfa ac Oriel Yr Amwythig, lle y cwblhaodd ei hail nofel, Green Blind ac mae newydd gyflwyno ei chasgliad cyntaf o straeon byrion, It’s Gone Dark over Bill’s Mother’s, sy’n deillio o’i magwraeth yn Stoke.

Mae hi bellach yn gweithio ar ei thrydedd nofel, Pondweed, sy’n cael ei disgrifio fel “clytwaith o byllau, gwleidyddiaeth a phensiynwyr”.

‘Abdul’

Mae stori fer Lisa Blower, ‘Abdul’ yn ymateb i argyfwng y ffoaduriaid, ond o safbwynt rhywun o’r tu allan.

Mae’n adrodd hanes llanc 16 oed o Afghanistan sy’n geisiwr lloches, a chawn hanes ei daith gyda gweithiwr cymdeithasol o Swydd Gaint i Stoke.

Dywedodd Lisa Blower: “Rhain yw’r straeon sydd fyth yn cael eu hadrodd ond sydd yn effeithio ar ein synnwyr o ddinasyddiaeth.

“Nid y daith i gyrraedd yma ydy’r daith yn ei gyfanrwydd.  Gall y cyrhaeddiad a’r hyn sy’n digwydd wedyn fod yr un mor anodd, mor greulon, mor frawychus â’r hyn sydd eisoes wedi ei brofi, oherwydd rŵan rydych yn cael eich dosbarthu,  eich beirniadu,  eich categoreiddio,  a’ch neilltuo;  gyda’r canlyniad  eich bod yn dal i fod heb lais na lle.

“Hefyd, mae’n ymwneud ag agendâu: rhai llywodraethol, personol, pobl yn dilyn gorchmynion.”

Bydd hi’n darllen y stori yn gyhoeddus am y tro cyntaf yn Y Lleachan ar Chwefror 14 fel rhan o gyfres Awdur ar Ymweliad Ysgol Saesneg Prifysgol Bangor. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Pontio PL2 am 6.30pm.

Mae’r digwyddiad hefyd yn cynnwys lansiad Beldezeki (Emma Press), casgliad diweddaraf  cydweithwraig Lisa, Yr Athro Carol Rumens, bardd uchel ei pharch. Mae’r digwyddiad ar agor i’r cyhoedd gyda mynediad yn rhad ac am ddim.

Bydd rhestr fer y Wobr yn cael ei chyhoeddi ddydd Sul Mawrth 18, gyda’r wobr i’w ddyfarnu Ddydd Iau Ebrill 27.