Mae enwau’r dwsin o awduron sydd wedi cyrraedd rhestr hir  Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas. wedi’u cyhoeddi.

Caiff y wobr o £30,000 ei dyfarnu i’r darn gorau o waith wedi’i gyhoeddi’n Saesneg, sydd wedi’i ysgrifennu gan awdur 39 mlwydd oed neu iau.

Eleni, mae’r rhestr hir yn cynnwys wyth nofel, dau gasgliad o straeon byrion, a dau gasgliad o farddoniaeth, ac mae awduron o  Zambia, gwledydd Prydain, Iwerddon, America, India a Nigeria arni.

Y rhestr hir

  • Ayọ̀bámi Adébáyọ̀, Stay With Me (Canongate Books)
  • Kayo Chingonyi, Kumukanda (Vintage – Chatto & Windus)
  • Meena Kandasamy, When I Hit You (Atlantic Books)
  • Lisa McInerney, The Blood Miracles (John Murray)
  • Carmen Maria Machado, Her Body and Other Parties (Graywolf Press)
  • Fiona Mozley, Elmet (JM Originals)
  • Gwendoline Riley, First Love (Granta)
  • Sally Rooney, Conversations With Friends (Faber & Faber)
  • Emily Ruskovich, Idaho (Vintage – Chatto & Windus)
  • Gabriel Tallent, My Absolute Darling (Riverhead Books)
  • Eley Williams, and Other Stories (Influx Press)
  • James Womack, On Trust: A Book of Lies (Carcanet Press)

Cyhoeddir rhestr fer y wobr ddiwedd mis Mawrth.

Datgelir enw’r enillydd mewn seremoni yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe ddydd Iau, Mai 10, cyn dathliadau Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas ar Fai 14.