Mae criw o feirdd yn ardal Aberystwyth wedi mynd ati i greu “anterliwt gyfoes” sy’n cynnig darlun dychanol o’r byd gwleidyddol presennol.

Mae’r anterliwt, sy’n cael ei galw’n Donald Bricit a Stryd y Domen, yn cael ei gyflwyno gan Gwmni Morlan yn Aberystwyth, ac yn ffrwyth cydweithrediad rhwng saith o feirdd lleol – gyda’r Prifardd Hywel Griffiths a’r Prif Lenor Eurig Salisbury yn eu plith.

Mae prif stori’r perfformiad wedi ei lleoli ar Stryd y Domen, ac ymhlith rhai o’r cymeriadau sy’n byw yno mae Leanne, Boris, Donald a Vlad – er bod hysbyseb ar gyfer y perfformiad yn mynnu mai “dychmygol” yw’r cymeriadau hyn i gyd.

“Drama ddychanol ar ffurf barddoniaeth”

Yn ôl Iestyn Tyne, sydd ymhlith yr ieuengaf o’r beirdd, mae’r cynhyrchiad yn dilyn ôl troed yr anterliwtydd o’r ddeunawfed ganrif, Twm o’r Nant, drwy gyflwyno “drama ddychanol ar ffurf barddoniaeth” sy’n cynnwys casgliad o “gymeriadau rhyfadd”.

“Rydyn ni wedi chwarae ar y syniad o ddefnyddio hen gymeriadau fel roedd hen anterliwtiau’r ddeunawfed ganrif,” meddai wrth golwg360.

“Er enghraifft, mae gynno chi’r ffŵl ac wedyn mae gynno chi gyfres o gymeriadau ystrydebol. Ond mae’r rheina’n chwara ar ein gwleidyddion modern ni.

“Y syniad ydy bod yna stryd, sef Stryd y Domen, ac mae’r stryd yma’n rhyw fath o ficrocosm o sefyllfa Prydain yn y byd ar y funud, gyda thipyn o ffraeo rhwng y teuluoedd ac yn y blaen.”

Pwysig i bobol “glywed barddoniaeth”

Wrth gyfeirio at y ffaith bod y perfformiad yn gwneud defnydd helaeth o farddoniaeth lafar, mae Iestyn Tyne yn mynnu ei bod yn bwysig bod barddoniaeth yn “dod at y bobol”.

“Dw i’n meddwl bod o’n bwysig bod pobol yn clywed barddoniaeth sydd ddim jyst yn rhywbeth sych,” meddai eto.

“Yn oes aur yr anterliwt, adloniant y werin oedd o – roedd yn cael ei pherfformio ar bren trol yn y farchnad.

“Dw i’n meddwl mai yn ysbryd hwnnw roedden ni eisiau creu rhywbeth tebyg; mae’n berfformiad digon ysgafn a doniol, ond hefyd yn dod â barddoniaeth at y bobol.”

Gyda hyn, mae’n mynnu bod yna le i ystyried mynd â’r perfformiad ar daith yn y dyfodol agos.

“Os ydy hwn yn llwyddiant, yna’n sicr mae yna botensial i’w wneud yn rhywbeth mwy rheolaidd, a bydd yn dda mynd ag o ar daith, dw i’n meddwl.”

Mi fydd Donald Bricit a Stryd y Domen yn cael ei chynnal ddiwedd yr wythnos hon ar nos Iau (11 Ionawr) a nos Wener (12 Ionawr) yng Nghanolfan y Morlan, Aberystwyth.