Bu farw’r nofelydd Iddewig, Aharon Appelfeld, a oroesodd yr Holocost ac a ddaeth yn un o’r lleisiau amlycaf llenyddiaeth y cyfnod. Roedd yn 85 oed.

Roedd wedi’i eni yn Romania cyn i’r Natsïaid ddod i rym, ac fe gollodd ei fam yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd hi’n ugain mlynedd ar ôl diwedd y rhyfel pan ddaeth yn ôl i gysylltiad â’i dad.

Fe ddaeth Aharon Appelfeld yn un o awduron amlycaf a mwyaf cynhyrchiol yr iaith Hebraeg, er mai yn ei arddegau y dysgodd yr iaith.

Roedd yn awdur dwsinau o gyfrolau a gafodd eu cyfieithu i nifer fawr o ieithoedd y byd.