Mae Golwg360 yn deall y bydd cyhoeddiad yn cael ei wneud yn y dyddiau nesa’ am ddyfodol cylchgrawn Cambria.

Dyw hi ddim yn bosib mynd ar dudalennau’r cylchgrawn ar y We ar hyn o bryd ond mae cofnod yn Nhŷ’r Cwmnîau yn dangos bod y perchnogion, Cyhoeddwyr Cymrica Cyfyngedig, yn parhau i fod yn weithredol.

Cafodd y cwmni ei ymgorffori yn 1997 ac mae ganddi swyddfa yn Nantgaredig ger Caerfyrddin.

Pan siaradodd Golwg 360 gydag un o gyfarwyddwyr y cwmni, Henry Jones-Davies, dywedodd nad oedd yn gallu dweud dim am y mater ar hyn o bryd ond y byddai cyhoeddiad cyn hir.

Roedd ffigurau diwetha’r cwmni yn Nhŷ’r Cwmnïau – a gafodd eu ffeilio ym mis Medi 2009 – yn dangos bod y cwmni’n gwneud colled.

Mae cylchgrawn Cambria’n cael ei ystyried yn gylchgrawn lliwgar a deniadol gyda llawer o sylw i hanes a ffordd o fyw yng Nghymru.