Mae’r gemydd sy’n gyfrifol am ddylunio coron Eisteddfod Genedlaethol 2018, wedi cynnig rhagflas o’r hyn y mae’n bwriadu ei greu.

 hithau’n rhagweld y bydd hi’n cymryd tri mis i wneud y gwaith, mae gan Laura Thomas eisoes syniad go lew o’r hyn y mae am ei wneud.

Ac e ei bod yn methu datgelu gormod ar hyn o bryd, meddai, mae hi yn dweud y bydd i’r wobr sawl haen bren a ffrâm arian.

Yn ogystal, fe fydd tiwlip lliwgar arni, bydd modd addasu ei maint – rhag ofn bydd yr enillydd â phen mawr – ac mae’r gemydd wedi addo “geometreg unigryw”.

Ysbrydoliaeth

“Daw fy ysbrydoliaeth o ddeunyddiau arloesol megis graffîn a phaneli solar, ac rwyf wedi bod yn arbrofi gydag onglau a phatrymau,” meddai Laura Thomas.

“Mae fy ngwaith yn gymesur ac yn onglog bob amser. Bydd y Goron yn adlewyrchu hynny yn ogystal â datblygiadau mewn technoleg fodern.”

Prifysgol Caerdydd sy’n noddi’r goron, a chafodd Laura Thomas ei dewis yn dilyn cystadleuaeth â dylunwyr eraill.

Mae’r gemydd yn rheoli gweithdy gemwaith cyfoes yn Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, ac yn creu casgliadau o’i gemwaith ei hun.