Culhwch ac Olwen
Mae Rachel Bromwich, ysgolhaig oedd yn arbenigo ar lenyddiaeth Gymraeg y Canol Oesoedd, wedi marw yn 95 oed.

Mae’n fwyaf adnabyddus am ei gwaith ar Drioedd Ynys Prydein, a gyhoeddwyd yn 1963, ac ar farddoniaeth Dafydd ap Gwilym.

Gyda’r diweddar Dr. Simon Evans gynhyrchodd argraffiad newydd o chwedl Culhwch ac Olwen yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Dywedodd yr Athro R. Geraint Gruffudd ei bod hi’n “wraig arbennig iawn”.

“Roedd hi’n amryddawn iawn, yn feistr mewn sawl man,” meddai.

“Ei phrif waith oedd golygu Trioedd Ynys Prydein, sy’n ryw fath o fynegai i chwedloniaeth Cymru. Dyna oedd ei champwaith hi.

“Fe gafodd hi ddylanwad mawr iawn ar fyfyrwyr. Roedden nhw wedi eu cyfareddu gan y pwnc, a chanddi hi. Fe fydd yna alar mawr ar ei hol hi.”

Cafodd ei geni yn Hove, Lloegr yn 1915 a threulio rhan o’i magwraeth yn yr Aifft ble’r oedd ei thad yn ymgynghorydd i lywodraeth y wlad.

Graddio yng Nghaergrawnt cyn astudio Cymraeg ym Mangor a Gwyddeleg yng Ngholeg y Frenhines, Belffast.

Ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd yn 1945 dychwelodd i Gaergrawnt yn ddarlithydd mewn llenyddiaeth Geltaidd. Fe wnaeth hi ymddeol yn 1976.