Cerddor o bentref Llandudoch ger Aberteifi sydd wedi cael y gwaith o arwain yr opera newydd, Wythnos yng Nghymru Fydd.

Mae Iwan Teifion Davies yn aelod o Dŷ Opera Salzburg yn Awstria ac wedi hyfforddi i fod yn répétiteur yn y Guildhall yn Llundain.

Dros yr wythnosau diwethaf mae wedi bod yn gyfrifol am arwain cantorion a cherddorfa’r opera newydd.

“I arwain opera mae angen cydlynu’r cyfan rhwng y gerddorfa a’r cantorion. Mae angen ymdeimlad am theatr a gwneud penderfyniadau theatrig,” meddai wrth golwg360.

Hen Wraig y Bala

Esbonia Iwan Teifion Davies fod ganddo gopi o nofel Islwyn Ffowc Elis ers ei ddyddiau yn Ysgol Uwchradd y Preseli a’i fod wedi’i hailddarllen wrth baratoi at yr opera newydd.

“Dw i’n cofio’n arbennig yr olygfa am Hen Wraig y Bala,” meddai gan esbonio y bydd y gynulleidfa’n dyst i farwolaeth yr iaith drwy’r hen wraig hon, sef siaradwraig ola’r Gymraeg.

“Dw i’n meddwl fod beth mae Gareth a Mererid [Gareth Glyn a Mererid Hopwood] wedi’i wneud efo’r olygfa yna’n arbennig,” meddai. “Maen nhw wedi llwyddo i grisialu plot y nofel i fewn i rywbeth sy’n dipyn yn fwy cryno.”

Ac mae’r cerddor yn falch o’r cyfle i weithio yn y Gymraeg am fod y “cysylltiad gyda’r geiriau yn ddyfnach”.

Opera newydd

Mae’r opera wedi’i chyfansoddi gan Gareth Glyn gyda’r libretto gan Mererid Hopwood gyda’r prif gantorion yn cynnwys Robyn Lyn, Gwawr Edwards, Siân Meinir, Euros Campbell, Siôn Goronwy, Gethin Lewis, Eleri Gwilym, Ilar Rees Davies a Seimon Menai.

Mae’r noson agoriadol yn cael ei chynnal yng nghanolfan Pontio, Bangor heno (Tachwedd 10) cyn parhau ar daith drwy Gymru.