Mewn darlith arbennig yn Llanbedr Pont Steffan neithiwr, mae un o brif awduron Cymru wedi datgelu sut y mae’n defnyddio byd natur yn batrwm i ysgrifennu.

Mae Caryl Lewis, sydd wedi ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn ddwywaith am ei nofelau, yn gweld siâp y goeden yn batrwm i lunio nofel.

“Mae byd y nofel i’w weld ar wyneb y ddaear, a’r byd mewnol y nofel yn mudferwi o dan y pridd,” meddai.

“Mae’r hyn sy’n digwydd islaw’r pridd yn rhoi bywyd a thyfiant i’r hyn sy’n digwydd yn y stori.”

Cragen a phluen

Yn ei chyfrol gyntaf o straeon byrion, Plu, mi gyflwynodd yr awdures y syniad o stori fer yn drosiad o bluen.

“Mae’r blufen yn dal yn symbol cryf ar gyfer y gair. Wrth ysgrifennu stori fer rhaid i gyffyrddiad yr ysgrifennu fod yn ysgafn rhag llethu’r darllenydd,” meddai.

Mae’n cyfeirio hefyd at “asgwrn cefn” pluen sy’n asgwrn cefn i stori – “does dim lle mewn stori fer i wyro oddi ar lwybr y traethu, rhaid gwybod yn union lle mae’n mynd.”

Ac mae’r awdures yn gweld cragen yn batrwm i gerdd oherwydd – “wrth wrando ar y geiriau’n atseinio oddi ar y waliau fe fyddwn yn ymateb fel unigolion, fe fydd y seiniau’n swnio’n wahanol i’m clustiau i a’ch clustiau chi.”

Darlith Goffa

Caryl Lewis oedd yn traddodi darlith goffa Islwyn Ffowc Elis eleni yn ystod Gŵyl Golwg (Hydref 26), ac mae’n cydnabod dylanwad yr awdur arni.

“Islwyn boblogeiddiodd y nofel Gymraeg, Islwyn fentrodd ennill ei fywoliaeth fel awdur llawn amser gan gymryd y camau cyntaf at broffesiynoli’r diwydiant yng Nghymru.”

Ac mae’n dweud ei bod yn rhannu’i werthoedd at fro, gwreiddiau, bywyd cefn gwlad a gwerth stori.