Harry Potter, eLyfrau a’r Gymraeg

Diweddarwyd  


Ifan Morgan Jones sy’n ystyried beth fydd effaith eLyfrau ar gyhoeddwyr Cymraeg…

Heddiw cyhoeddodd JK Rowling, awdur llyfrau Harry Potter, ei bod hi’n mynd i ddechrau gwerthu ei nofelau ar ffurf eLyfrau. I’r rhieni sydd yn anghyfarwydd â’r dechnoleg newydd yma, mae eLyfrau yn llyfrau y mae modd eu lawrlwytho i ddyfais darllen, e.e. y Kindle, a’u darllen yn union fel y byddech chi’n darllen llyfr cyffredin.

Mantais fawr yr eLyfr dros y llyfr cyffredin ydi ei fod yn haws cael gafael arnyn nhw (mae yna filiynau ar gael i’w lawrlwytho dros y we), ac yn rhatach (sdim angen talu am yr holl bapur ‘na), a does dim angen silff i’w dal nhw – mae’r Kindle yn dal mwy o lyfrau nac y gellir disgwyl eu darllen mewn oes.

Efallai y bydd y Ludiaid yn ein plith yn dadlau na fydd y dyfeisiau darllen fyth yn disodli’r llyfr papur – ac roeddwn i yn eu plith nhw nes i fi gael fy Kindle fy hun yn anrheg Nadolig. Maen nhw’n hawdd iawn i’w defnyddio ac ar ôl 15 munud doeddwn i ddim hyd yn oed yn sylwi fy mod i’n gwasgu botwm yn hytrach na throi tudalen.

Ta waeth am hynny, beth sy’n gwneud cyhoeddiad JK Rowling yn arwyddocaol yw ei bod hi’n bwriadu gwerthu’n syth o’r awdur i’w darllenwyr – heb fynd drwy’r cyhoeddwyr yn gyntaf. Nid hi yw’r cyntaf, ond hi yn sicr yw’r awdur mwyaf poblogaidd ym myd llyfrau i gymryd y cam yma. Mae’n newid anferth i’r byd llyfrau ac fe fydd ganddo effeithiau pellgyrhaeddol – i fyd llyfrau Cymraeg hefyd.

Mae ambell gyhoeddwr, er enghraifft Y Lolfa, eisoes yn gwerthu eLyfrau am bris gostyngedig ond gellir dychmygu y bydd rhai awduron Cymraeg yn dilyn esiampl yr awduron Saesneg cyn bo hir ac yn dechrau gwerthu llyfrau yn uniongyrchol i’w darllenwyr. Mae yna sawl mantais i’r awdur, wedi’r cyfan. Mae’n cael pocedu mwy o’r arian am y gwerthiant, ac mae’n debygol o werthu rhagor o gopïau am eu bod nhw’n rhatach. Hefyd does dim rhaid iddo ddibynnu ar hanner dwsin o siopau llyfrau Cymraeg i werthu’r cynnyrch – mae’r cyfan ar gael i bawb ar y we.

Ar bapur fe allai’r fath ddatblygiad arwain at gynnydd mawr yn nifer y llyfrau sy’n cael eu cyhoeddi drwy gyfrwng y Gymraeg. Dywed yr academydd David Crystal mai’r we yw’r cyfrwng delfrydol i ieithoedd lleiafrifol am nad yw’n costio unrhyw beth i gyhoeddi – ac mae’r un peth yn wir am gyhoeddi eLyfrau.

Cefnu ar y cyhoeddwyr?

Ond mae yna anfanteision hefyd. Yn gyntaf, mae ysgrifennu drwy’r Gymraeg yn dibynnu i raddau helaeth ar grantiau sy’n cael eu dyrannu gan y  cyhoeddwyd gwahanol. Nid yn unig y maen nhw’n talu am y gost o gyhoeddi llyfr, ond maen nhw hefyd yn talu awduron i dreulio amser i ysgrifennu’r llyfr yn y lle cyntaf.  Y grantiau yma, yn aml, yw’r elw pennaf y mae awdur yn ei wneud o ysgrifennu nofel yn Gymraeg – digon pitw yw’r breindaliadau mewn gwirionedd. Heb ryw fath o wobr ariannol gan y cyhoeddwyr a fyddai cymaint o awduron yn fodlon ysgrifennu?

Hefyd, drwy gefnu ar y cyhoeddwyr, mae’r awdur yn colli gwasanaeth y golygydd. Mae angen golygydd da ar bob awdur llwyddiannus. Y golygydd yw bydwraig y broses o ysgrifennu llyfr. Mae’r awdur yn gwneud yr holl waith llafurus o greu’r nofel, ond y golygydd sy’n gwybod sut i’w gael yn barod ar gyfer y byd mawr y tu allan. Mae’n anodd iawn i rywun sydd wedi treulio misoedd yn ysgrifennu llyfr i’w ystyried mewn modd gwrthrychol. Mae angen pâr ffres o lygaid i weld y gwendidau a beth sydd angen ei newid. A’r holl gamgymeriadau, wrth gwrs.

Mae’r cyhoeddwr hefyd yn rheoli ansawdd llyfrau. Dydyn nhw ddim yn mynd i ryddhau unrhyw hen sothach, ac mae unrhyw un sy’n prynu llyfr yn mynd i wybod ei fod wedi ei olygu ac o safon digon da i’r wasg fynd i’r drafferth i’w gyhoeddi. Heb y ‘rheoli ansawdd’ yma fe allai unrhyw hen rwtsh gael ei gyhoeddi ar y we, y gwenith yn gymysg â’r us, ac fe fyddai darllenwyr yn llawer llai hyderus wrth dalu arian da i lawrlwytho llyfr.

Yn olaf, mae cyhoeddwyr hefyd yn cynnig stondin i’r llyfrau – nid stondin go iawn yn yr Eisteddfod Genedlaethol, neu mewn siop lyfrau Cymraeg, yn unig, ond yr arbenigedd i farchnata llyfrau drwy’r cyfryngau. Heblaw bod rhywun yn sefydlu ryw fath o ystorfa ganolog i’r holl eLyfrau Cymraeg sydd ar gael, ac yn fodlon eu hyrwyddo, sut yn union fydd awduron yn denu sylw’r farchnad?

Yr unig sicrwydd yw y bydd rhaid i awduron a chyhoeddwyr Cymraeg gofleidio’r dechnoleg newydd.  Yr eLyfrau yw’r dyfodol a does dim pwynt ceisio cuddio rhag hynny. Ond mewn hinsawdd ariannol digon ansicr, rhaid i gyhoeddwyr llyfrau Cymraeg benderfynu yn go glou sut orau i gymryd mantais lawn ohonyn nhw – neu beryglu cael eu gadael ar ôl.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Gwobrau BAFTA Cymru 2018