Morgan Tomos yn cyflwyno siec i Ysgol y Gelli ar faes Eisteddfod yr Urdd
Mae awdur a plant ysgol blwyddyn 1 a 2 wedi cydweithio ar lyfr newydd a gyhoeddwyd gan wasg Y Lolfa ar faes Eisteddfod yr Urdd.

Mae Morgan Tomos, awdur ac artist Cyfres Alun yr Arth, wedi bod yn teithio o gwmpas ysgolion ledled Cymru.

Dywedodd fod stori llyfr Alun yr Arth a Jac Drws Nesa o gynnal i weithdai yn ei gyn ysgol, sef Ysgol y Gelli, Caernarfon.

“Cefais wahoddiad i fynd yno i gynnal sesiwn stori, fel rhan o gynllun Awduron ar Daith yr Academi Gymreig,” meddai.

“Mae dosbarth o blant bob tro yn fy ysbrydoli. Mae eu brwdfrydedd yn ysgogi ar syniadau newydd ac yn yr achos yr ysgol arbennig hon, i ysgrifennu dwy stori.

“Iddyn nhw mae’r diolch am stori Jac Drws Nesa ac rwy wedi sicrhau bod plant ac athrawon yr ysgol yn elwa’n ariannol o gyhoeddi’r llyfr.”

Yn y stori hon, mae Alun yn clywed Jac, ei ffrind, yn crio yn yr ardd drws nesa. Mae mam Jac yn disgwyl babi, a dyw e ddim yn hapus.

Mae’n penderfynu byw mewn tŷ bach pren allan yn yr ardd yn lle gorfod byw o dan yr un to â babi swnllyd.

Ond mae Alun yn helpu ac mae Jac yn ddiolchgar iawn iddo. Mae’r stori’n pwysleisio’r pwysigrwydd o ddweud diolch ac yn codi cwestiynau ynglñn â sut mae plentyn yn teimlo ac yn dod i ddygymod â chael aelod newydd yn y teulu.

“Mae Morgan yn edrych am ffyrdd newydd o ddatblygu ei greadigrwydd,” Mae llyfr Alun yr Arth a Jac Drws Nesa,” meddai Meinir Wyn Edwards, Golygydd Llyfrau Plant y Lolfa.

“O fewn cyfnod o chwe mis mae wedi cyhoeddi pedwar llyfr – dau yng Nghyfres Alun yr Arth mewn cydweithrediad ag Ysgol y Gelli, un arall i ddenu plant iau at y cymeriad poblogaidd, yn Alun yr Arth yn Dysgu Cyfri ac un nofel Saesneg i blant 10-12 oed sy’n ymdrin â themâu dwys fel gor-dewdra a bwlio o dan y teitl Mrs GwraK.”