Simon Brooks
Er ei bod hi’n “oes aur” ar ryddiaith Gymraeg, dyw barddoniaeth Gymraeg ddim wedi llwyddo i adlewyrchu’r Gymru sydd ohoni ers y Cynulliad.

Dyna farn un o feirniaid cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn eleni, Simon Brooks, a oedd yn cymryd rhan mewn cynhadledd ar ‘Lenyddiaeth Ôl-Refferendwm’ gyda’r awdur Catrin Dafydd a Catrin Beard yn y gynhadledd yng Nghanolfan y Morlan, Aberystwyth.

“Beth sydd wedi digwydd yw bod rhyddiaith Cymraeg wedi ymateb i ddatganoli,” meddai wrth Golwg.

“Mae cnwd o lyfrau gwych wedi ymddangos. Dy’n nhw ddim yn trafod gwleidyddiaeth fel y cyfryw, ond maen nhw i gyd yn trafod sylwebaeth gymdeithasol mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.

“Ond, fel maes yn ei gyfanrwydd, dydi hi ddim yn ymddangos bod barddoniaeth wedi bod yr un mor ffyniannus â rhyddiaith ers datganoli.

“Mae barddoniaeth yn ymwneud llawer mwy efo cynnig rhyw weledigaeth sydyn o ryw bwnc neu’i gilydd. Felly mae yn llai addas ar gyfer y math yna o drafodaeth estynedig. Tybed a ydi hynny yn ffactor, neu ai jyst mater o newid cenhedlaeth sydd yma?”

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 21 Ebrill