Mae’r elusen i bobol ddall a rhannol ddall, RNIB, wedi lansio eu ‘llyfr llafar’ cyntaf yn yr iaith Gymraeg.

Y darllenydd newyddion, Garry Owen, sy’n darllen Ysgol Jacob, addasiad Cymraeg o Jacob’s Ladder.

Cafodd y llyfr gan yr awdur Brian Keaney ei addasu i’r Gymraeg gan Elin Meek.

Cyhoeddodd RNIB eu llyfr llafar cyntaf, The Murder of Roger Akroyd gan Agatha Christie, 75 mlynedd yn ôl, yn 1935.

Ers hynny mae 75 miliwn o lyfrau sain wedi eu hanfon gan RNIB at bobl sydd wedi colli eu golwg.

“Mae hyn yn torri tir newydd gan sicrhau bod llenyddiaeth yn hygyrch i bobl sydd wedi colli eu golwg ac sy’n siarad Cymraeg,” meddai Sarah Rochira, Cyfarwyddwraig RNIB Cymru.

“Rydym wedi ymrwymo i gynhyrchu 40 o deitlau sain iaith Gymraeg newydd bob blwyddyn ac wedi derbyn ymateb cadarnhaol gan awduron ac adroddwyr o fyd y celfyddydau dramatig a darlledu yng Nghymru.

“Rwy’n gwybod y bydd llyfrau hyn yn rhoi pleser i lawer iawn o bobl.”

Mae RNIB Cymru eisoes yn y broses o gynhyrchu ugain o deitlau newydd, gan awduron Cymraeg gan gynnwys Mared Llwyd, Elgan Philip Davies, Angharad Price, Manon Steffan Ros a Gareth Miles.

Bydd Betsan Llwyd, Hywel Emrys, Sian Bassett Roberts a Geraint Pickard yn eu darllen.

‘Hwb i’r iaith’

“Mae’n newyddion mawr y bydd llyfrau llafar yn awr ar gael yn Gymraeg,” meddai’r Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones.

“Mae’n holl bwysig i roi i bobl y gallu i fyw eu bywydau yn yr iaith o’u dewis ac mae’n hanfodol i weld yr iaith yn ffynnu.”

Dywedodd Brian Keaney, awdur Jacob’s Ladder, ei fod wrth ei fodd fod ei nofel wedi ei gyfieithu i’r Gymraeg.

“Rwy’n ymhyfrydu i glywed bod Jacob’s Ladder wedi ei ddewis yn Llyfr Llafar cyntaf y Gymraeg,” meddai.

“Mae’n anrhydedd fawr. Mae’n braf ei weld yn cael ei drosi i’r Gymraeg, am ei fod yn llyfr sy’n ymwneud â hunaniaeth.

“Mae hon, wedi’r cyfan, yn stori am siwrnai fewnol, ymdrech i ffeindio allan pwy ydych chi ac i ddeall eich lle yn y byd.”