Mae un o nofelau mwyaf poblogaidd yr awdur Gareth F Williams i’r arddegau wrthi’n cael ei hail-gyhoeddi yr wythnos hon.

Yn ôl Meinir Edwards, golygydd gwasg Y Lolfa, roedd gan yr awdur a fu farw y llynedd “ddawn i ddal dychymyg a sylw’r arddegau”.

Cafodd ei nofel, Hwdi, ei chyhoeddi gyntaf yn 2013 yn rhan o gyfres Mellt i ddarllenwyr rhwng 11 a 14 oed.

“Dyma heb os oedd y nofel fwyaf poblogaidd ac mae wedi gwerthu allan felly rydym wedi penderfynu ei hailagraffu,” meddai Meinir Edwards, gan egluro y byddan nhw’n argraffu 800 o gopïau y tro hwn.

Apelio at bobol ifanc

Un o heriau mwya’r byd cyhoeddi Cymraeg, yn ôl Meinir Edwards, ydy ennyn diddordeb pobol yn eu harddegau.

“Does dim prinder awduron ar gael i ysgrifennu ar gyfer oedolion ifanc, mae yna bentwr yn aros yma ar fy nesg i,” meddai wrth golwg360.

“Ond cael at y bobol ifanc eu hunain yw’r broblem fwyaf,” meddai.

“Dydi’r bobol ifanc ddim yn dueddol o wario eu harian ar lyfrau, yn anffodus, ac mae yna lai a llai o gyllid gan ysgolion a llyfrgelloedd.”

Er hyn – “roedd Gareth F yn llwyddo i apelio atyn nhw am ryw reswm – efallai o achos y genre arswyd yr oedd e’n mwynhau ei ysgrifennu.”

Gareth F Wiliams

Yn ystod ei yrfa cyhoeddodd Gareth F Williams mwy nag ugain o gyfrolau i blant, pobol ifanc ac oedolion.

Enillodd wobr Tir na n-Og am gyfrolau i bobol ifanc bedair gwaith ynghyd â gwobr Llyfr y Flwyddyn 2015 am Awst yn Anogia gafodd ei hail-gyhoeddi ym mis Ionawr.