Mae artrist a chyn-Fardd Plant Cymru wedi bod yn cydweithio er mwyn creu darnau o waith sy’n portreadu cartref yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Mae’r artist, Elin Vaughan Crowley, wedi creu darn o gelf ar y testun ‘Môn’ sy’n cynnwys geiriau Anni Llŷn.

Dyma’r tro cyntaf i’r artist o Ddyffryn Dyfi weithio ar y cyd â llenor neu fardd ar brosiect o’r fath. Yn ôl Elin Vaughan Crowley, mae wedi bod yn “fraint” cael arbrofi.

“Bu’n gyfle i mi arbrofi trwy gynnwys geiriau yn y gwaith torriad leino; sydd yn newid o’r arddull blaenorol o weithio gyda delweddau yn bennaf,” meddai.

Dywed Anni Llŷn, wedyn, ei bod “yn braf” cael y cyfle i greu “rhywbeth newydd, ffres” a bod cyd-weithio gyda’r artist o Fachynlleth wedi bod “fel rhoi trwch o eisin lliwgar ar gacan go lew!

Mi fydd y gwaith i’w weld ar stondin Cwt Tatws ar faes yr Eisteddfod.