Hywel Griffiths
Mae dylanwad ymchwil ddaearyddol y Prifardd Hywel Griffiths yn fwy ar ei gyfrol newydd o farddoniaeth o gymharu â’i gyfrol gyntaf, Banerog, a gyhoeddodd wyth mlynedd yn ôl.

Mae hyd at 70 o gerddi wedi’u cynnwys yn ei gyfrol Llif Coch Awst sy’n cynnwys ei awdl fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau, sef ‘Gwe’.

Ag yntau’n ddarlithydd yn Adran Daearyddiaeth Prifysgol Aberystwyth dywedodd fod ei waith yn cynnig “syniadau diddorol a phosibiliadau newydd i farddoni.”

Llif Coch Awst

Mae teitl y gyfrol a’r gerdd Llif Coch Awst yn cyfeirio at derm daearyddol a syniad oedd yn “gwrthod gollwng gafael”, yn ôl y bardd.

Mae’r term yn cyfeirio at lif afonydd ar ôl storom – “mae’r llif yn digwydd yn rheolaidd ac mae ffermwyr yn aml yn ei ddisgwyl, mae’n rhan o’u calendr nhw. Mae’r coch yn cyfeirio at y pridd sy’n troi’r afonydd yn frown a choch eu lliw,” meddai wrth golwg360.

Dywedodd fod y syniad wedi cydio ynddo ers y llifogydd ym mhentref Tal-y-bont yn 2012 lle bu’n byw.

Cerddi caeth sydd ganddo gan fwyaf ac mi fydd yn lansio’r gyfrol yng Ngŵyl Gerallt yn Aberystwyth ddydd Sadwrn, Mai 27. Dyma glip ohono’n darllen un o gerddi’r gyfrol, sef ‘Tyrfa’…