Heiddwen Tomos
Mae cael mwy o nofelau am gefn gwlad yn beth iach, yn ôl awdures o Sir Gâr.

Mae Heiddwen Tomos o Bencarreg ger Llanybydder newydd gyhoeddi ei nofel gyntaf i oedolion a hynny ar ôl cystadlu gyda Dŵr yn yr Afon yng Ngwobr Goffa Daniel Owen y llynedd.

“Mae rhai wedi ei disgrifio hi’n eithaf cignoeth a du ar adegau – ond efallai mai fel yna y mae cefn gwlad ar ei waethaf. Ar ei orau mae cefn gwlad wrth gwrs yn lle cynnes a hapus,” meddai’r awdures.

Tad a mab ydy prif gymeriadau’r nofel sy’n archwilio’r heriau o gynnal fferm deuluol, a dywedodd Heiddwen Tomos ei bod hi’n nofel “mentrus” sy’n dilyn trywydd “eithaf tywyll.”

A hithau’n bennaeth Celfyddydau Mynegiannol a Drama yn Ysgol Bro Teifi – dramâu a straeon byrion sy’n mynd â’i bryd fel arfer.

Ond fe benderfynodd droi at y nofel “am mai dyna sy’n gwerthu ar hyn o bryd gan fod pobol yn mwynhau llinyn stori gref,” meddai gan esbonio iddi gymryd tua chwe mis i gwblhau’r nofel.