Mererid Hopwood, Nan Lewis, a Fflur Dafydd (Llun: Alun Lenny)
Mae trefnwyr Parêd Dewi Sant Caerfyrddin wedi cyhoeddi y bydd tair “arwres llên” yn tywys eu parêd eleni.

Bydd Fflur Dafydd, Mererid Hopwood a Nan Lewis yn tywys y parêd ar ddydd Sadwrn, 25 Chwefror i ddathlu gŵyl ein nawddsant.

Cafodd y tair merch leol, sydd oll wedi ennill nifer o wobrau ym maes llenyddiaeth, eu dewis oherwydd eu cyfraniadau i lenyddiaeth gyfoes.

Y cyn-chwaraewr rygbi Delme Thomas fu’n arwain y parêd cyntaf yn nhre hynaf Cymru, y llynedd.

Yn dilyn y parêd fe fydd Wythnos Gymraeg Caerfyrddin, sef wythnos o weithgarwch yng Nghaerfyrddin i ddathlu Dewi Sant.