Fe fu'n rhaid i'r Arglwydd Raglaw ddanfon ei MBE i Gerald, gan ei fod yn gwrthod symud cam o'r Ysgwrn (Llun: Nigel Hughes)
Mae’r dyn a aberthodd ei oes gyfan i gynnal y cof am Hedd Wyn yn fyw, wedi mentro i dde Cymru am y tro cynta’ yn ei fywyd.

Mae Gerald Williams, y ffermwr 88 oed na fu ddim pellach nag Aberystwyth am bedwar ugain o flynyddoedd, wedi treulio dyddiau yng Nghaerdydd ac yn Sir Gaerfyrddin yn ddiweddar, tra bo’r gwaith adnewyddu ar Yr Ysgwrn yn parhau.

Mae disgwyl y bydd Yr Ysgwrn ar agor eto i ymwelwyr ym mis Mai, gyda chyflenwad dwr a thrydan am y tro cynta’ erioed, ac wedi’i adnewyddu i roi mynediad heb risiau i bawb.

“Maen nhw’n deud eu bod nhw’n mynd i’w wneud o’n ôl yn union fath ag odd o, ond fedran nhw byth wneud hynny, na fedran, mae hynny’n berffaith amhosib yn fy meddwl i ynde,” meddai Gerald Williams wrth golwg360.

“O’n i wedi trio ei gadw fo’n union fath ag oedd o, dim newid o gwbwl, popeth yn union yn ei le… fel yn amser Hedd Wyn.”

Codi’r pwysau 

Ond, wedi dweud hynny, mae gwerthu’r Ysgwrn i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi codi “cryn dipyn” o bwysau oddi ar ysgwyddau Gerald Williams – ac wedi galluogi iddo adael y ffermdy yn Sir Feirionnydd, a gweld tipyn mwy ar Gymru.

Fe fu Gerald Williams yn cynnau tân ac yn cynnal y cof am Hedd Wyn yn yr Ysgwrn ers 1954, wedi iddo addo i’w fam ar ei gwely angau y byddai’n dweud y stori am farw ei brawd, Ellis Humphrey Evans, ar faes y gad yng Nghefn Pilkem, ger Fflandrys, ddiwedd Gorffennaf 1917.

Fe groesawodd Gerald filoedd o ymwelwyr o Gymru ac o bob cwr o’r byd i weld y ‘Gadair Ddu’, ac fe adroddodd yr hanes o safbwynt y teulu.

“Doeddwn i ddim yn gwybod be’ i wneud hefo fo,” meddai. “Oedd hi’n broblem fawr, ond rŵan dw i wedi ei werthu fo i’r Parc, dw i’n meddwl y gwnân nhw gadw’r drws yn agored.”

Elsa

Y “ffrind mawr” sydd wedi llwyddo i berswadio Gerald Williams i fentro am y de, ydi Elsa Myfanwy Davies, cyn-brifathrawes sy’n dod o bentre’ Bancyfelin ger San Clêr ond sydd â chartre’ hefyd ym Mhenylan, Caerdydd; cyn-Gyfarwyddwr y Gymdeithas Caeau Chwarae Genedlaethol; yn ogystal â bod yn llywodraethwr Coleg Cerdd a Drama Cymru, ac yn aelod o Gyngor Prifysgol Cymru.

Fe gafodd Elsa Davies, 72, ei hanrhydeddu gan y Frenhines yn 2004 gyda LVO (Lieutenant of the Victorian Order), anrhydedd sy’n cael ei rhoi i bobol sydd wedi gwasanaethu’r Frenhines yn bersonol.

Ac fe fu Gerald Williams yn aros yn Bancyfelin yn ddiweddar, cyn ymweld am y tro cynta’ â’r brifddinas a chael gweld y Cynulliad Cenedlaethol ac Amgueddfa Cymru Sain Ffagan.

Mae hyn yn dipyn o beth, oherwydd hyd yn oed pan gafodd Gerald Williams ei anrhydeddu â’r MBE gan y Frenhines yn 2012, a hynny am ei wasanaeth i dreftadaeth, doedd o ddim yn fodlon symud cam o’r Ysgwrn i gasglu’r fedal. Fe fynnodd yn hytrach bod cydnabyddiaeth y Frenhines yn cael ei danfon ato i’r fferm.

“Mae Gerald wedi treulio ychydig ddyddie i lawr yn y de yn ddiweddar,” meddai Elsa Davies wrth golwg360, “a falle y bydd e’n dod i lawr am gwpwl o ddyddie eto. Ond cael Gerald o’r Ysgwrn? Chi’n meddwl y gallech chi wneud hynny? Yr Ysgwrn yw lle fydd e’n byw…

“Ni’n ffrindie mawr, ac fe fydda’ i’n mynd lan ato fe yn fuan i gadw cwmni iddo fe ac i gwcan a gwneud yn siwr nad yw e’n gwneud gormod.”

Y gwaith ar Yr Ysgwrn

Mae ffermdy Yr Ysgwrn yn cael ei adfer, fel y bydd y ty cyfan – nid y gegin a’r parlwr – ar agor i’r cyhoedd. Yn fan hyn y bydd arddangosfa o hanes y teulu a’r ffordd weldig o fyw ar droad yr 20fed ganrif, ac yn dilyn datblygiad Hedd Wyn fel bardd.

Mae Beudy Ty, sydd y tu ôl i’r ffermdy, yn cael ei adnewyddu – yn fan hyn y bydd arddangosfa am y Rhyfel Mawr a’i effaith drwy ystyried hanes Hedd Wyn ei hun a’r dynion lleol eraill a gollodd eu bywydau.

Bydd y Beudy Llwyd yn caei ei addasu i fod yn adeilad croeso, ac yma bydd taith yr ymwelydd yn cychwyn. Bydd yma gaffi ac oriel, toiledau cyhoeddus, a man prynu tocynnau ar gyfer ymweld â’r ty. Oddi yno mae modd mwynhau’r olygfa y byddai Hedd Wyn wedi ei gweld.

Fe fydd llwybrau cerdded ar y tir, a fydd wedi eu dehongli gan farddoniaeth Hedd Wyn ac eraill, ac mae’r ffordd i fyny at y ty yn caei ei gwella a’r fynedfa’n cael ei lledu er mwyn derbyn bysus.

Mae sied amaethyddol newydd â tho gwair wedi’i chodi i denant y fferm, Meilir Jarrett, fel ei fod yn medru parhau i ffermio.

Mae’r holl brosiect yn werth £3.4 miliwn – sy’n cynnwys costau adeiladau, adnewyddu, adfer, staffio ac ati yn ogystal ag elfen wirfoddol gref.

Bu farw Hedd Wyn chwech wythnos cyn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw 1917. Mae disgwyl i’r Ysgwrn ar ei newydd wedd gael ei agor yn swyddogol ar Fedi 6, sef union ddyddiad seremoni’r Gadair Ddu’ ganrif yn ôl.