Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn comisiynu adolygiad o wobr Llyfr y Flwyddyn, wedi cyfarfod arbennig ddoe i drafod dyfodol y wobr.

Mewn datganiad, mae yna gadarnhad hefyd bod y corff yn edrych am “bartneriaid ariannu newydd” a’i fod yn chwilio am noddwyr newydd sydd am “gefnogi datblygu’r Gwobrau”.

Cafodd Llenyddiaeth Cymru gyfarfod brynhawn ddoe i drafod dyfodol y wobr, sy’n un o brif ddigwyddiadau’r calendr llenyddol yng Nghymru.

Mae disgwyl i’r adolygiad, a fydd yn edrych ar elfennau trefnu a chyflwyno’r gwobrau, gael ei gyflwyno i Lenyddiaeth Cymru erbyn diwedd mis Ebrill eleni.

Gyda seremoni wobrwyo Llyfr y Flwyddyn fel arfer yn cael ei chynnal ym mis Gorffennaf, a’r gwaith o benodi beirniaid fel arfer eisoes wedi digwydd erbyn yr adeg hon, mae’n annhebygol y bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn 2017.

Er hynny, does dim cadarnhad swyddogol wedi dod gan Lenyddiaeth Cymru y naill ffordd na’r llall.

“Uchafbwynt blynyddol”

Mae’r gwobrau fel arfer yn cael eu cyflwyno i’r gweithio Cymraeg a Saesneg gorau ym maes ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol mewn tri chategori: Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol-Greadigol.

Mae Llenyddiaeth Cymru ei hun yn dweud bod y gwobrau yn “codi proffil llenyddiaeth o Gymru” ac yn “uchafbwynt blynyddol i awduron, cyhoeddwyr, y cyfryngau a nifer o sefydliadau celfyddydol a diwylliannol.”

“Ac mae Llenyddiaeth Cymru yn ymrwymedig i sicrhau ei ddyfodol,” medden nhw mewn datganiad.

“Mae Llenyddiaeth Cymru’n awyddus i ddatblygu model fydd yn gweddu anghenion y sector yn well, yng Nghymru a thu hwnt ac a fydd yn ehangu cyrhaeddiad y gwobrau.

“Mae’r adolygiad hwn yn holi barn ystod eang o unigolion a sefydliadau sy’n gweithio yn, a gyda’r sector llenyddiaeth. Bydd hefyd cyfle i ddarllenwyr llenyddiaeth Gymraeg leisio’u barn trwy ymgynghoriad ar-lein.

“Mae Llenyddiaeth Cymru hefyd yn anelu at adnabod partneriaid ariannu newydd yn sgil yr adolygiad a hoffai glywed gan unrhyw noddwyr newydd sydd â diddordeb mewn cefnogi datblygu’r gwobrau.”

Cyngor Celfyddydau yn dal i gefnogi

Meddai Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru: “Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad gan Llenyddiaeth Cymru eu bod yn cynnal adolygiad o Wobr Llyfr y Flwyddyn gyda’r bwriad o ddatblygu model busnes newydd a chynaliadwy ar gyfer y gwobrau.

“Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi ymrwymo i gefnogi un o brif ddigwyddiadau’r calendr celfyddydol.”