Adolf Hitler
Fersiwn newydd o Mein Kampf, maniffesto Adolf Hitler, yw’r llyfr ffeithiol sydd wedi gwerthu fwya’ yn yr Almaen.

Mae 85,000 copi o’r llyfr a gyhoeddwyd gan Athrofa Hanes Cyfoes Munich, wedi cael eu gwerthu ers ei gyhoeddiad flwyddyn yn ôl.

Mae’r llyfr wedi ei gyhoeddi dan yr enw Mein Kampf: A Critical Edition ac yn cynnwys sylwadau sydd yn tynnu llygad y darllenydd at gamgymeriadau a phropaganda’r fersiwn gwreiddiol.

Cyn terfyn yr hawlfraint yn 2015 roedd perchennog hawlfraint y llyfr, gweinyddiaeth gyllid Bafaria, wedi llwyddo atal cyhoeddiad argraffiadau newydd yn yr Almaen.

Er cynnwys gwrth-semitaidd y llyfr, nid oedd wedi ei wahardd yn yr Almaen ac mi roedd modd dod ar ei draws mewn siopau llyfrau ail law, llyfrgelloedd ac ar y rhyngrwyd.