Deuddydd i fynd tan ddiwrnod Nadolig, a dim anrheg i’w roi?

Yma, mae Nici Beech, awdur y gyfrol goginio Cegin, yn rhannu rysait ar gyfer Picl Pinafal Poeth – rhwydd i’w wneud, ac anrheg hyfryd i’w roi yr adeg yma o’r flwyddyn.

Neu, os nad ydych yn chwilio am anrheg, mwynhewch ei goginio i chi’ch hun!

Y cynhwysion sydd eu hangen i greu’r picl ydi: dau binafal, 2 nionyn coch, sinsir ffres, tsili coch, 350g siwgr brown, 4 llwy fwrdd o hadau mwstard, 600ml finegr seidr, 2 llwy de o halen.

Yn y clip fideo hwn, mae Nici Beech yn mynd â ni trwy’r broses o baratoi’r picl: