Ty Newydd, golygfa o arfordir Pen Llyn Llun: Mared Ifan
Mae rhyw draddodiad rhyfedd gennym ni yng Nghymru o ffitio geiriau gyda’i gilydd fel jig-so, gwneud i gytseiniaid hanner llinell gyd-fynd â hanner llinell arall, a’i galw’n gynghanedd.

Mae’r arfer hwn yn mynd yn ôl 1,500 o flynyddoedd a chanlyniad y jig-so geiriol yw sain go unigryw ar y glust – yn felodïaidd â rhythm penodol.

Ar ôl dablo â’r grefft am rai misoedd yn Ysgol Farddol Caerfyrddin, bues i’n ddigon lwcus i fynd ar gwrs yng nghanolfan ysgrifennu Tŷ Newydd am dri diwrnod llawn o gynganeddu.

A dyna le bu 11 ohonom, yn y tŷ gwyn eiconig yn Llanystumdwy, yn bobol o wahanol gefndiroedd, o bob cwr o Gymru, wedi ein cau o brysurdeb y byd tu allan, mewn cwlt cynganeddu yn dysgu am ei nodweddion a cheisio creu ambell i linell ohoni.

Dysgu cynganeddu ar Twitter

Roedd yn dridiau o bleser pur, mewn llecyn godidog o Gymru, mewn tŷ llawn ysbrydoliaeth a fu’n gartref i David Lloyd George ym mlynyddoedd olaf ei fywyd.

Roedd rhai yn gwbl newydd i’r grefft, eraill wedi dysgu rhywfaint mewn dosbarthiadau nos ac un wedi dysgu sut i gynganeddu ar Twitter.

Er bod y gynghanedd yn rhywbeth oedd yn codi ofn arnaf i ddechrau, roedd y cwrs wedi dangos nad yw hi mor gymhleth ag y mae rhai yn meddwl, a bod ysgrifennu yn gallu dod â’r pleser mwyaf i rywun.

Ac unwaith mae rhywun yn dod i ddeall y gynghanedd, rydych wedi dal y byg ac yn trio cynganeddu pob gair a welwch neu a glywch chi!

Crefft unigryw i Gymru

Cawsom glywed am hanes a datblygiad y gynghanedd, yng nghwmni’r tiwtoriaid, Tudur Dylan Jones ac Aneirin Karadog a chlywed cynganeddion yn y Llydaweg, sydd wedi colli’r traddodiad erbyn hyn, gyda Twm Morys.

Mae’r grefft, sydd erbyn heddiw yn unigryw i Gymru, yn rhywbeth i drysori, ac mae’n braf gweld y gynghanedd yn cael ei gwynt ati, gyda thon o feirdd ifanc, newydd yn cyrraedd uchelfannau’r gamp.


Mared Ifan
Ble mae’r merched?

Ond un peth sydd ar goll, a rhywbeth am wn i, sydd ddim yn cael ei drafod digon yw’r prinder merched sy’n ysgrifennu’n gaeth yn y Gymraeg heddiw.

Dim ond dwy ferch sydd erioed wedi ennill Cadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a hynny yn yr ugain mlynedd ddiwethaf yn unig.

Ond os am draddodiad iach o gynganeddu yng Nghymru, rhaid i ferched cael lle yn ei dyfodol hefyd.

Felly, os cewch gyfle i fynd i Dŷ Newydd neu i unrhyw ddosbarth cynganeddu arall – ewch! Cewch eich trwytho mewn iaith newydd a fydd yn canu yn eich clust.

Mae modd hefyd dilyn dosbarthiadau cynganeddu ar Twitter ar gyfrif, @Cynganeddu.