Harper Lee
Mae awdures y nofel To Kill A Mockingbird, Harper Lee, wedi marw yn 89 mlwydd oed.

Mae datganiad gan ei theulu yn cadarnhau iddi farw yn ei chwsg fore Gwener. Roedd hi mewn iechyd da hyd y diwedd, meddai’r teulu wedyn, ac roedd ei marwoaeth yn “annisgwyl”.

Enillodd Harper Lee y Wobr Pulitzer yn 1961 am To Kill A Mockingbird – yr unig lyfr a gyhoeddodd tan Go Set A Watchman, ei dilyniant, a gyhoeddwyd yn 2015.

Mae To Kill A Mockingbird yn adrodd hanes teulu dosbarth canol sy’n byw yn nhalaith Alabama yn y 1960au, a sut y mae’r tad o gyfreithiwr yn tynnu nyth cacwn yn ei ben trwy amddiffyn dyn croenddu sydd wedi’i gyhuddo o dreisio dynes wen. Mae’r stori’n cael ei hadrodd trwy lygaid Scout, ei ferch ifanc, ac mae wedi gwerthu mwy na 40 miliwn o gopïau ers ei chyhoeddi yn 1960.

Roedd Harper Lee yn ddynes breifat ac anaml iawn y byddai’n rhoi cyfweliadau.