Clawr y rhifyn diweddaraf o Golwg
Dydd Iau diwethaf mi fuodd Golwg ar Grwydr yng Nghaernarfon, ac uchafbwynt y diwrnod oedd sgwrs â’r awdures Angharad Tomos yn siop Palas Print.

Yn ystod y sgwrs â gohebydd celfyddydau Golwg, Non Tudur, fe fu’r awdures yn trafod gŵyl newydd i gofio am y bardd R Williams Parry a’i hoffter o’i waith, yn ogystal â’i nofel newydd Paent! sydd yn sôn am baentio arwyddion adeg arwisgo’r Tywysog Siarl yn 1969.

Bu Angharad Tomos hefyd yn trafod y gymhariaeth rhwng R Williams Parry a T H Parry Williams, ei ysbrydoliaeth cyntaf hi i ddechrau ymgyrchu, a’r helynt diweddar gyda Neuadd Pantycelyn.

Ar bodledliad celfyddydau Golwg360 heddiw mae gennym ni rai o uchafbwyntiau’r sgwrs honno, yn ogystal â blas ar rai o’r straeon celfyddydau eraill sydd yn Golwg yr wythnos hon.