Kayleigh Jones
Kayleigh Jones fu’n darllen dwy o lyfrau’r gyfres ddiweddaraf ar ei gwyliau …

Wedi arholiad ar ôl arholiad ar ôl arholiad, roedd yn hyfryd i dreulio 10 diwrnod yn gwneud dim byd ond ymlacio ar wely haul gydag awyr las a’r haul yn disgleirio.

Ac ar fy ngwyliau, cefais gyfle i gael cip ar y gyfres Stori Sydyn newydd, rhywbeth rydw i wedi bod yn edrych ymlaen at wneud.

‘Bryn y Crogwr’ gan Bethan Gwanas a ‘Cymru a’r Rhyfel Byd Cyntaf’ gan Gwyn Jenkins oedd y llyfrau i mi ddarllen, ond mae’n rhaid cyfaddef, dydw i heb orffen yr ail eto.

Mae’r ddwy stori hyn yn rhannu mwy na dyddiad cyhoeddi – prif thema’r ddwy yw hanes, hanes y Cymry i fod yn benodol.

Bryn y Crogwr

‘Bryn y Crogwr’ – teitl diddorol. Doeddwn i ddim yn gwybod beth i ddisgwyl gan y stori hon, ond yn syth roedd wedi gafael ynof.

Cyfarfyddwn â Cai, coedwigwr, sy’n dechrau jobyn newydd ym Mryn y Crogwr sydd â chysylltiadau ag amser Owain Glyndŵr. Mae pethau rhyfedd iawn yn dechrau digwydd, ac mae Cai yn colli rheolaeth o’i feddwl a’i weithrediadau.

Wrth i Cai frwydo yn erbyn y posibilrwydd o golli ei feddwl, darganfyddwn y gwir a’r cyfrinachau a gadwyd ers blynyddoedd.

Mae Bethan Gwanas yn llwyddo i ddod a hanes yn fyw mewn modd deniadol. Ac er mai stori arswyd yw hon i fod, mae digon o hiwmor ynddi i’w gwneud hi’n stori ysgafn i’w darllen. Rydw i wir yn credu y gallai’r stori hon ysbrydoli mwy o bobl i ddysgu mwy am ein hanes.

Cymru a’r Rhyfel Byd Cyntaf

Os nad ydych yn hoff iawn o storïau ffuglen, mae gan ‘Cymru a’r Rhyfel Byd Cyntaf’ arddull hollol wahanol i ‘Bryn y Crogwr’. Nid yw cynnwys y stori’n syndod o gwbl, adroddiad ffeithiol o brofiadau Cymry yn ystod y Rhyfel Mawr.

Mae’r stori yn dilyn gwahanol bobl oedd â gwahanol swyddogaethau yn ystod y rhyfel. Mae’r llyfr yn llawn ffeithiau a dyfyniadau sy’n gwneud y stori’n fwy personol.

Ac o’r ffeithiau a’r dyfyniadau, mae delwedd wir o’r trafferthion a wynebodd y Cymry yn cael ei chreu.

Meddwl am ein hanes

Felly, mae’n rhaid dweud bod gennyf feddwl mawr o’r storïau hyn a’r gyfres yn gyffredinol.

Maent yn hawdd i’w darllen ond nid ydynt yn rhy syml i wneud i chi deimlo fel eich bod yn darllen stori i blant. Hefyd mae digon o amrywiaeth felly mae rhywbeth at ddant pawb.

Mae’r ddwy stori wedi gwneud i mi feddwl mwy am ein hanes a’n gwreiddiau. Ond, y pwynt mwyaf pwysig yw eu bod yn ddiddorol ac oherwydd hyn yn gwneud i fwy a fwy o bobl werthfawrogi llenyddiaeth Gymraeg.