Megan Morgans
Megan Morgans sy’n teimlo na wnaeth drama ddiweddara’r Theatr Genedlaethol gydio ynddi cymaint ac yr oedd wedi’i ddisgwyl …

‘Boddhaol’ yw’r gair sy’n dod i’r meddwl wrth ddisgrifio perfformiad Theatr Genedlaethol Cymru o ddrama eiconig Saunders Lewis, Blodeuwedd.

Ni chefais fy siomi gan y cynhyrchiad, ond ni chefais fy ngwefreiddio chwaith. Ar ôl clywed am lwyddiant y cynhyrchiad awyr agored y llynedd ac ar ôl darllen am yr actorion talentog, roeddwn yn edrych ymlaen yn arw i’w gwylio yn Theatr y Sherman, Caerdydd.

Rhian rhagorol

Fe’m plesiwyd yn fawr gan gyfraniad yr actores Rhian Blythe a ymgymerodd â rôl heriol Blodeuwedd.

Llwyddodd i gyfleu holl elfennau gwrthgyferbyniol a berthynai i bersonoliaeth Blodeuwedd – ei natur serchus a nwydus yn ogystal â’i chreulondeb anystyriol. Ond rhywsut galluogwyd i ni gydymdeimlo â hi gan iddi fod yn gymeriad unig a thruenus.

Er bod iaith Saunders Lewis yn y ddrama’n annaturiol braidd ac yn farddonol ei naws, roedd mor naturiol ac ystyriol ym mherfformiad Rhian Blythe. Yn sicr, serennodd yr actores wrth lwyr ymroi i rôl Blodeuwedd.

Rhys rhwystredig

Er hyn teimlais fod yr actor Rhys Bidder, a chwaraeodd rôl Gronw Pebr yn y ddrama, yn cyfyngu ar berfformiad Rhian Blythe. Ni welwyd perthynas y ddau’n datblygu fel y dychmygais wrth ddarllen y ddrama.

Yn fy marn i roedd Rhys Bidder yn anghredadwy a braidd yn lletchwith. Yn ogystal, ni glywais holl linellau’r actor, ac oherwydd hyn collwyd ychydig o ystyr y ddrama.

Yn sicr uchafbwynt y ddrama oedd y diweddglo effeithiol, gyda chwerthiniad erchyll Blodeuwedd yn troi’n sgrech tylluan, ac yna tylluan wen yn hedfan ar draws y llwyfan. Clywyd ochneidio o blith y gynulleidfa!

Dyma ddiweddglo cofiadwy a thrawiadol, ond nid yw diweddglo yn unig yn ddigon i sicrhau drama lwyddiannus.

Cyfnod yn cymhlethu

Un o’r elfennau nad oeddwn yn sicr fy marn amdani oedd cyfnod y ddrama. Roedd y gwisgoedd, y set a’r gerddoriaeth i gyd yn perthyn i gyfnod y 1940au.

Ar yr un llaw roedd hyn yn ddiddorol, gyda’r lliwiau llachar a’r gerddoriaeth ramoffonaidd yn ychwanegiadau unigryw a ffres.

Ond fe’m cymhlethwyd gan gyffyrddiadau fel synau ceir yn lle meirch, a’r defnydd o ddryll yn lle saeth, er iddyn nhw lynu at sgript wreiddiol Saunders Lewis.

Deallaf mai’r bwriad oedd dangos bod themâu’r chwedl yn rhai oesol a throsglwyddadwy, ond roedd newid cyfnod y ddrama’n aneffeithiol.

Disgwyl gormod?

Fel y dywedais uchod, roedd gen i ddisgwyliadau uchel cyn mynd i weld y ddrama, yn enwedig gan i’r fersiwn awyr agored a gafodd ei berfformio yn Nhrawsfynydd ennill gwobr y ddrama orau yn yr iaith Gymraeg yng Ngwobrau’r Beirniaid Theatr ym mis Ionawr.

Byddai wedi bod yn ddiddorol gweld y ddrama awyr agored er mwyn ei chymharu â’r cynhyrchiad theatr.

Byddai’r cynhyrchiad wedi gallu bod yn un ardderchog, ond roedd gormod o elfennau israddol a oedd yn amharu ar rediad y ddrama a mwynhad y gwyliwr, felly ni chefais y profiad dramatig a ddisgwyliais.

A dyna pam y defnyddiais y gair ‘boddhaol’ fel y disgrifiad mwyaf addas i’r ddrama.

Marc: 6/10

Gallwch ddilyn Megan ar Twitter ar @MeganHaf6.