Clawr Un Ddinas, Dau Fyd gan Llwyd Owen
Tra’r oedd Llwyd Owen yn sgrifennu ei lyfr newydd y llynedd, roedd trafferthion S4C yn cael sylw mawr yn y wasg.

Ac mae storm y Sianel wedi dylanwadu ar Un Ddinas, Dau Fyd.

Mae’r nofel yn sôn am fyd y cyfryngau yng Nghaerdydd yn 2010, yn dilyn helyntion Emlyn Eilfyw-Jones, sy’n berchennog ar gwmni teledu annibynnol.

“O wybod be sy’ wedi bod yn mynd ymlaen gydag ein sianel genedlaethol ni mae’n ei gwneud hi’n haws dychan nag erioed o’r blaen,” meddai Llwyd Owen.

“Mae’n drist iawn beth sydd wedi digwydd fan’na,” meddai’r awdur 37 oed. “Gan fy mod i’n sgrifennu am Gaerdydd yn 2010, a’r cyfryngau, roedd yn rhaid iddo fe adlewyrchu be sy’n mynd ymlaen.”

Fel un o’i arwyr, y nofelydd Brett Easton-Ellis, mae Llwyd Owen yn rhoi digon o gameos i bobol go iawn yn y nofel.

Yn eu plith, mae Huw Stephens a Huw Evans, sy’n gwneud cyfres gerddorol o’r enw Plop, Magi Dodd, Cate le Bon, Daniel a Matthew Glyn, a Beti George.

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 3 Mawrth