Rhan arall o'r gyfres lluniau
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi gorfod rhoi gorchudd tros bedwar o luniau yn y Lle Celf am eu bod yn dangos lluniau o ferch a gafodd ei llofruddio a’r dyn ifanc oedd wedi ei lladd.

Roedd teulu’r ferch, Rebecca Aylward, wedi cwyno ar ôl clywed am y lluniau David Rees Davies sy’n dangos pobol y mae’n eu caru a phobol y mae’n eu casáu.

Mewn datganiad i’r BBC heddiw, fe ddywedodd trefnwyr yr Eisteddfod nad oedden nhw’n gwybod am gefndir y lluniau a’u bod wedi trafod y mater gyda’r teulu a’u haelod seneddol.