Meri Huws yn yr Eisteddfod
Fe fydd un arall o gyn-gadeiryddion Cymdeithas yr Iaith yn ymuno gyda staff Comisiynydd y Gymraeg.

A hithau hefyd yn gyn-gadeirydd i’r mudiad, fe gadarnhaodd Meri Huws ar Faes yr Eisteddfod bod Wynford James yn dod i weithio ati ar secondiad i helpu rhoi trefn ar weinyddiaeth fewnol y corff newydd.

“Mae hyn yn newyddion da iawn,” meddai. “Mae gan Wynford lawer iawn o brofiad o weinyddu mewn sawl corff.”

Fe fydd yn ymuno â’r Comisiynydd ym mis Medi – ar hyn o bryd mae’n bennaeth Hybu Bwyd i’r Llywodraeth.