Cynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol Llanllyfni nos Wener 24 Chwefror. Y beirniaid oedd Mr Huw Foulkes, Caerdydd (Cerdd) a Mrs Dorothy Jones, Llangwm (Llefaru a Llenyddiaeth). Cafwyd noson lwyddiannus iawn, a’r ddau feirniad yn canmol safon y cystadleuwyr yn y gwaith llwyfan a’r gwaith llenyddol. Y cyfeilydd oedd Mr H Alan Roberts, Porthmadog.  Enillwyd y Gadair agored am gerdd ar y testun Dychwelyd gan Mr Richard Morris Jones, Caernarfon. Enillydd Cadair yr Ifanc oedd Llinos Heledd Roberts o Lanllyfni ac Ysgol Dyffryn Nantlle. Perfformiwr mwyaf addawol yr Eisteddfod ym marn y ddau feirniad oedd Caryl Angharad, Carmel.

Dyma’r canlyniadau:

CANU

Unawd dan 10 oed

1af: Nanw Evans, Pontllyfni

2il: Hawys Evans, Pontllyfni

Unawd dan 12 oed

1af: Fflur Davies, Rhostryfan

2il: Luned Rhys, Llanarmon

Unawd Blwyddyn 7, 8 a 9

1af: Gwion Jones, Bethel

2il: Dafydd Cadwaladr, Rhostryfan

Unawd 15 – 21 oed

1af: Enlli Pugh, Botwnnog

2il: James Edwards, Llanfair PG a Caryl Angharad, Carmel

Prif Unawd

1af:  Clarence Jones, Llangefni

2il: Caryl Angharad,Carmel

Deuawd dan 15 oed

1af: Mali Llyfni a Megan Crisp

Cân Werin dan 15 oed

1af: Dafydd Cadwaladr, Rhostryfan

2il: Gwion Jones, Bethel

Unawd Cerdd Dant dan 15 oed

1af: Alaw Williams, Pontllyfni

2il: Dafydd Cadwaladr, Rhostryfan

Cân Werin Agored

1af: Caryl Angharad, Carmel

2il: Enlli Pugh, Botwnnog

Unawd Cerdd Dant Agored

1af: Enlli Pugh, Botwnnog

2il: Caryl Angharad, Carmel

Cân allan o  Sioe Gerdd

1af:  Caryl Angharad, Carmel

2il:  James Edwards, Llanfair PG

Canu Emyn dros 50

1af: Arthur Wyn Parry, Groeslon

2il: Brynmor Jones a Wyn

Unawd Piano (oed uwchradd)

1af: Gwion Jones Bethel

2il: Megan Crisp Nebo

Unawd Offerynnol  (oed uwchradd)

1af: Megan Crisp, Nebo

2il: Lowri Mair Williams, Pontllyfni

LLEFARU

Dan 10 oed

1af:  Jac Williams, Dinbych

2il:  Ifan Rhys, Llanarmon

Dan 12 oed

1af: Llio Bryfdir, Bontnewydd

2il: Lleucu Williams, Nefyn

Blwyddyn 7, 8 a 9

Cydradd 1af: Mali Llyfni, Llanllyfni a Gwion Jones, Bethel

15 – 21 oed

1af: Caryl Angharad, Carmel

Y Brif Adroddiad

1af: Caryl Angharad, Carmel

Adroddiad Digri

1af: Lleucu Elenid Williams, Nefyn

Perfformiwr mwyaf addawol y Steddfod: Caryl Angharad, Carmel

DAWNSIO DISGO

1af: Parti Pontllyfni

LLENYDDIAETH

Rhyddiaith dan 15 oed

1af: Mali Llyfni Ysgol Dyffryn Nantllei

2il: Elin Llwyd Williams Ysgol Dyffyn Nantlle

Barddoniaeth dan 15 oed

1af: Megan Angharad Hunter Ysgol Dyffryn Nantlle

2il: Catrin Ann Thomas a Lowri Mair Williams Ysgol Dyffryn Nantlle

Rhyddiaith dan 19 oed

1af: Llinos Heledd Roberts, Ysgol Dyffryn Nantlle

2il: Mared Gruffydd, Rhoscefnhir, Ynys Mon

Barddoniaeth dan 19 oed

1af: Llinos Heledd Roberts, Ysgol Dyffryn Nantlle

2il: Elan Grug Muse Ysgol Dyffryn Nantlle

Llenyddiaeth dan 19 oed (dysgwyr)

1af: Nia Haf Jones, Rhuthun

Englyn

1af: John Ffrancon Griffith, Abergele

2il: Meirion Jones, Llanfair PG, Ynys Môn

Englyn crafog

1af: John Ffrancon Griffith, Abergele

2il: John Meurig Edwards, Aberhonddu

2il: R J H Griffiths, Bodffordd, Ynys Môn

Telyneg

1af: John Meurig Edwards Aberhonddu a Valmai Williams, Aberdesach

2il: R J H Griffiths, Bodffordd, Môn

Gorffen Limrig

1af: John Meurig Edwards, Aberhonddu

2il: Ffion Gwen Williams,

Llunio Brawddeg

1af: Eleri Evans, Nanmor

Cystadleuaeth y Dysgwyr

1af: Nia Haf Jones, Rhuthun

Stori Fer

1af: Rhian Tomos, Caernarfon

2il: Eirlys Wynn Tomos, Rhuthun

Cerdd gaeth neu rydd

1af: Richard Morris Jones, Caernarfon

2il: Elan Grug Muse, Carmel

EISTEDDFOD PLANT YSGOL LLANLLYFNI 2012

Cynhaliwyd Eisteddfod Plant Ysgol Llanllyfni ar Ddydd Gwyl Dewi. Unwaith eto cafwyd Eisteddfod lwyddiannus iawn, gyda phlant yr ysgol yn perfformio ar eu gorau ac yn mwynhau bod ar y llwyfan.  Roedd y neuadd dan ei sang a’r rhieni wrth eu bodd yn gweld y plant yn eu gwisgoedd Cymreig amrywiol. Y beirniad cerdd oedd Mrs Carys Vaughan Jones, Penygroes a’r beirniad llefaru oedd Mrs Eryl Thomas, Nantlle. Y cyfeilydd oedd Mrs Pat Jones Chwilog.

Hoffai’r pwyllgor ddiolch i fudiad y Round Table yng Nghaernarfon am eu rhodd tuag at gostau cynnal Eisteddfod y Plant.

Dyma’r canlyniadau:

Dosbarth Meithrin:

Canu:  1af Lana a Danielle 2il Enlli a Nia 3ydd Kian a Kacie.

Llefaru: 1af Lana 2il Danielle 3ydd Kian, Enlli, Nia a Kacie.

Dosbarth Derbyn:

Canu:  1af Josh, 2il Rosheen, 3ydd Dion ac Enfys

Llefaru: 1af Enfys a Josh, 2il Rosheen a Dion, 3ydd Tilly

Blwyddyn 1:

Canu: 1af Owain a Cai, 2il Beca, 3ydd Elliw Mai ac Elliw Wyn

Llefaru: 1af Cai, 2il Elliw Wyn, 3ydd Mabon ac Elliw Mai

Blwyddyn 2:

Canu:   1af Begw ac Anya, 2il Shayley ac Annabelle 3ydd Dyfan

Llefaru: 1af Begw 2il Dyfan ac Anya 3ydd Shayley ac Annabelle

Blwyddyn 3:

Canu:   1af Cadi Evans, 2il Cadi Davies a Cayo, 3ydd Iestyn

Llefaru:  1af Cadi Evans, 2il Cadi Davies a Iolo

Blwyddyn 4:

Canu: 1af Elen a Cian, 2il Anya a Joanna, 3ydd Llewelyn ac Elin

Llefaru: 1af Elen, 2il Llewelyn, 3ydd Cian a Joanna

Blwyddyn 5:

Canu:   1af Catrin a Ffion, 2il Dafydd

Llefaru: 1af Awel a Catrin 2il Dafydd, 3ydd Gareth a Tomos

Blwyddyn 6:

Canu: 1af Elliw,  2il Luke ac Ella, 3ydd Sion a Gruffydd

Llefaru: 1af Elen, 2il Elliw, 3ydd Ella

Unawd Offerynnol:

1af Elen, 2il Llewelyn, 3ydd Joanna a Ffion