Mae’r dyddiad cau ar gyfer cystadlaethau cyfansoddi Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg yn agosau, ac mae’r trefnwyr yn galw ar i ddarpar gystadleuwyr beidio gadael pethau tan y munud olaf wrth anfon ceisiadau i swyddfa’r Eisteddfod erbyn Dydd Sul , 1 Ebrill

Dywedodd Hywel Wyn Edwards: “Mae’r testunau eleni wedi cael croeso brwd, a nifer fawr ym mhob cwr o Gymru wedi bod yn sôn am gystadlu.  Gydag ychydig wythnosau’n unig i fynd cyn y dyddiad cau, dyma gyfle i ddarllen drwy’r gwaith am y tro olaf, ei argraffu a’i anfon atom mewn da bryd er mwyn iddo ein cyrraedd cyn y dyddiad cau.

“Bob blwyddyn rydym yn clywed am bobl oedd wedi bwriadu cystadlu ond heb gael cyfle i orffen eu gwaith, neu heb lwyddo i gael popeth yn barod mewn pryd, felly dyma’ch atgoffa, gydag ychydig dros bythefnos i fynd tan y dyddiad cau.

“Pwy â ŵyr – efallai mai ar eich desg chi mae’r awdl fuddugol eleni.  Felly, ewch ati i orffen eich gwaith da chi.”

Dysgwr y Flwyddyn

31 Mawrth yw dyddiad cau cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn, ac eleni mae’r Eisteddfod wedi bod yn annog siaradwyr Cymraeg i enwebu dysgwyr ar gyfer y gystadleuaeth fel rhan o’r ymgyrch Carwch yr iaith – Cadwch yr iaith.

Mae cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn un o gystadlaethau pwysicaf a mwyaf poblogaidd yr Eisteddfod, a gobaith yr ymgyrch hon yw sicrhau bod y rheini sydd wedi dysgu Cymraeg a chwarae rhan lawn yn eu cymuned a’r cymdeithas yn cael eu anrhydeddu am eu hymroddiad i’r iaith ac i Gymru.

Mae ffurflenni cystadlu Dysgwr y Flwyddyn a’r cystadlaethau cyfansoddi i’w cael yn y Rhestr Testunau, sydd ar gael i’w lawrlwytho o wefan Eisteddfod 2012,neu gellir ei brynu arlein neu mewn siopau ar hyd a lled Cymru.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg ar dir hen faes awyr Llandw o 4-11 Awst eleni.  Am ragor o wybodaeth ewch i’r wefan – www.eisteddfod.org.uk