Megan Richars - Enillydd y Gadair
Cafwyd Eisteddfod lwyddiannus arall ar 25 Chwefror pan oedd Neuadd yr Ysgol, Llanfihangel, yn llawn o gystadleuwyr a chynulleidfa frwd. Eleni braf oedd gweld nifer mawr o blant lleol o flynyddoedd Meithrin, Derbyn, 1 a 2, yn cystadlu yn y llefaru a’r canu am y tro cyntaf.

Enillodd Hanna Medi Davies o Wyddgrug Gwpan Coffa Freddy Brooker am ganu emyn gan rywun lleol o oedran ysgol gynradd. Mae’r llun yn dangos Mrs Wendy Brooker yn cyflwyno’r wobr iddi. Hefyd derbyniodd Hanna y cwpan am y perfformiad mwyaf addawol gan blentyn lleol. Rhoddwyd y wobr gan deulu’r diweddar Mr a Mrs Hughes, gynt o Brownhill, Llanfihangel.


Llion Steffan a Mrs Yvonne Griffiths
Gwobrwywyd Cwpan Coffa Heledd Griffiths am y darn  gorau o gelf gan blentyn lleol i Llion Steffan, Blwyddyn 1, Ysgol Llandysul. Cyflwynodd Mrs Yvonne Griffiths y wobr.

Enillodd Adran-yr-arth, Llanfihangel, Darian Valerie Davies am barti canu oedran ysgol gynradd.


Adran-yr-arth - Enillwyr parti canu oedran ysgol gynradd
Gwobrwywyd Cwpan Her Western Power i Caryl Lewis o Faenclochog am y perfformiad mwyaf addawol gan rywun o unrhyw oedran yn y sesiwn agored.

Yn yr adran Lenyddiaeth enillodd Hanna Medi Davies Darian Her Teulu Gwenllan a Gwobr y Garthen am y cais gorau gan rywun a oedd yn dal mewn ysgol. Cyflwynwyd y wobr gan Mrs Mary Davies ar ran y teulu.


Caryl Lewis
Gwobrwywyd Cwpan Coffa Gwilym Walters am y darn gorau o ryddiaith i Lynda Ganatsiou, Thessaloniki, Groeg, ond gynt o Bontarddulais, am ei stori fer.

Yn olaf enillodd Megan Richards, Aberaeron, y gadair am yr eitem gorau o farddoniaeth, am ei thelyneg.

Mae pwyllgor yr eisteddfod yn ddiolchgar iawn i bawb a helpodd gwneud y digwyddiad yn llwyddiant, ein Llywydd, Mrs Nancy Jones, y beirniaid, y stiwardiaid, Daniel Thomas am wneud y gadair gyflwyno, Janet Evans am dynnu’r lluniau, y cystadleuwyr, y rhai a ddaeth i wrando, yr arlwywyr a phob un a gyfrannodd tuag at y costau yn cynnwys Cronfa Fudd Fferm Wynt Statkraft Alltwalis a’r Cyngor Cymuned.

Rydym yn cynllunio 2013 nawr!

Canlyniadau Eisteddfod Llanfihangel-ar-arth a’r Plwyf 2012

Adran Leol

Canlyniad Llefaru Blwyddyn 5 a 6

1af – Cwpan – Hanna Medi Davies, Gwyddgrug

2il – Tarian – Mared Phillips, Llanfihangel

Canlyniad Unawd Blwyddyn 3 a 4

1af – Cwpan – Gwion Thomas, Croeslan

2il – Tarian – Heledd Jones, Saron

Canlyniad Llefaru Blwyddyn 1 a 2

1af – Cwpan Katie, Ysgol Gynradd Llandysul

2il – Tarian – Rhydian, Saron

3ydd – Medal – Fflur, Ysgol Gynradd Llandysul

Canlyniad Unawd Meithrin a Derbyn

1af – Cwpan – Erin, Trebedw

2il – Tarian – Leisa, Llandysul

3ydd – Medal – Emily, Llandysul

Canlyniad Llefaru Blwyddyn 3 a 4

1af – Cwpan – Elis, Pencader

2il – Tarian – Heledd Jones, Saron

Canlyniad Unawd Blwyddyn 5 a 6

1af – Cwpan – Hanna Medi Davies, Gwyddgrug

2il – Tarian – Mared Phillips, Llanfihangel

3ydd – Medal – Siriol Howells, New Inn

Canlyniad Llefaru Meithrin a Derbyn

1af – Cwpan – Cadi, Llandysul

2il – Tarian – Erin, Trebedw

3ydd – Medal – Emily, Llandysul

Canlyniad Unawd Blwyddyn 1 a 2

1af – Cwpan – Katie, Llandysul

2il – Tarian – Hanna, Llanfihangel-ar-arth

3ydd – Medal – Rhydian, Saron

Canlyniad Canu Emyn – ( Rhoddwyd Gwobr Goffa Freddy Brooker i’r enillydd)

1af – Cwpan – Hanna Medi Davies, Gwyddgrug

2il – Tarian – Daniel Hall Jones, Pencader

3ydd – Medal – Mared Phillips / Nerys Jones

Rhoddwyd cwpan her gan deulu’r ddiweddar Mr a Mrs Hughes,

gynt o Brownhill, Llanfihangel-ar- Arth, i’r perfformiad mwyaf addawol.

Hanna Medi Davies, Gwyddgrug

Adran Agored

Canlyniad Llefaru Blwyddyn 5 a 6

1af – Cwpan – Ela Evans, Felinfach

2il – Tarian – Mared Phillips, Llanfihangel

Canlyniad Unawd Blwyddyn 3 a 4

1af – Cwpan – Nia Eleri Morgans, Gorsgoch

2il – Tarian – Lois Mai Jones, Cwmsychpant

3ydd – Medal – Sioned Davies, Llanybydder

Canlyniad Llefaru Meithrin, Derbyn

1af – Cwpan – Beca Curry, Llanddarog

Canlyniad Unawd Blwyddyn 1 a 2

1af – Cwpan – Ffion Mair, Llanybydder

2il – Tarian – Iwan Bryer, Llanarthne

Canlyniad Unawd Blwyddyn 5 a 6

1af – Cwpan – Hanna Medi Davies, Gwyddgrug

2il – Tarian – Ela Evans, Felinfach

3ydd – Medal – Mared Phillips / Rhiannon Jones, Peniel

Canlyniad Llefaru Blwyddyn 3 a 4

1af – Cwpan – Buddug Phillips, Cwmdwyfran

2il – Tarian – Sara Elan, Cwmann

3ydd – Medal – Sioned Davies, Llanybydder

Canlyniad Llefaru Blwyddyn 1 a 2

1af – Cwpan – Iwan Bryer, Llanarthne

2il – Tarian – Ffion Davies, Llanybydder

3ydd – Medal – Rhifon Davies, Cwmdwyfran

Canlyniad Unawd Piano – Ysgol Gynradd (Rhoddiwyd gwobr o £20 i’r enillydd gan Mrs Valerie Davies, Pont-Tyweli i brynu cerddoriaeth ac/neu wersi piano)

1af – Cwpan – Mared Phillips, Llanfihangel

2il – Tarian – Siriol Howells, New Inn

3ydd – Medal – Nerys Jones, Pencader

Canlyniad Unawd Offerynnol – Ysgol Gynradd

1af – Cwpan – Heledd Jones, Saron

2il – Tarian – Mared Phillips, Llanfihangel

Canlyniad Parti canu – Ysgol Gynradd (Rhoddwyd tarian her i’r parti buddugol gan Mrs Valerie Davies, Caeralaw, Pont Tyweli)

1af – £20 – Adran yr Arth, Llanfihangel

Canlyniad Parti Llefaru

1af – £20 – Adran yr Arth, Llanfihangel

Canlyniad Alaw Werin – Ysgol Gynradd

1af – Cwpan – Ela Evans, Felinfach

2il – Tarian – Mared Phillips, Llanfihangel

3ydd – Medal – Hanna Medi Davies, Gwyddgrug

Canlyniad Deuawd – Ysgol Gynradd

1af – £10 – Hanna Medi Davies ac Ela Evans

2il – £6 – Nia Morgans a Lois Jones

Canlyniadau Cerdd Dant – Ysgol Gynradd

1af – Cwpan – Ela Evans, Felinfach

2il – Tarian – Lois Jones, Cwmsychbant

3ydd – Medal – Hanna Medi Davies / Nia Morgans

Canlyniad Unawd Piano – Ysgol Uwchradd

1af – £15 – Caryl Lewis, Maenclochog

2il – £10 – Elen Davies, Pencader

3ydd – £5 – Sioned Howells, New Inn

Canlyniad Unawd – Blwyddyn 7 – 9

1af – £10 – Lois Thomas, Pencader

Canlyniad Llefaru – Blwyddyn 10 – 13

1af – £15 — Caryl Lewis, Maenclochog

Canlyniad Llefaru Blwyddyn 7 – 9

1af – £10 – Lois Thomas, Pencader

2il – £6 – Sioned Howells, New Inn

Canlyniad Unawd Blwyddyn 10 -13

1af – £15 – Caryl Lewis, Maenclochog

2il – £10 – Ianto, Cribyn

3ydd – £5 – Elen Davies, Pencader

Canlyniad Canu Emyn Ysgol Uwchradd

1af – £15 – Caryl Lewis, Maenclochog

2il – £10 – Elen Davies, Pencader

3ydd – £5 – Lois Thomas, Pencader

Canlyniad Alaw Werin – Ysgol Uwchradd

1af – £15 – Caryl Lewis, Maenclochog

2il – £10 – Lois Thomas, Pencader

Canlyniad Unawd Cerdd Dant – Agored

1af – £20 – Lois Thomas, Pencader

Canlyniad Cyflwyniad Dramatig – Agored

1af – £20 – Elen Davies, Pencader

Canlyniad Llefaru 16 – 25 oed

1af – £20 – Caryl Lewis, Maenclochog

Canlyniad Cân fodern neu gân allan o unrhyw sioe gerdd

1af – £15 – Lois Thomas, Pencader

2il – £10 – Elen Davies / Caryl Lewis

Canlyniad Her adroddiad dros 18 oed – Agored

1af – £20 – Mari , Alltwalis

Canlyniad Canu Emyn dan 50 oed

1af – £20 – Lois Thomas, Pencader

Cyflwynwyd Cwpan Her Western Power am y perfformiad mwyaf addawol yn yr Adran Agored

Caryl Lewis, Maenclochog