Cafwyd cystadlu brwd o safon uchel yn Eisteddfod Gadeiriol Bancffosfelen a gynhaliwyd ddydd Sadwrn Hydref  15fed, 2011 yn Neuadd Gyhoeddus Bancffosfelen a Chrwbin, ger Llanelli.

Diolch yn fawr iawn i’r beirniaid sef Kym Morgans (Cerdd), Dr Lois Slaymaker-Jones(llefaru) a Tudur Hallam(llenyddiaeth) am eu gwaith diwyd yn ystod y dydd, a diolch hefyd i Geraint Rees am gyfeilio.

Agorwyd yr Eisteddfod gyda phlant yr ysgolion cynradd lleol yn canu, llefaru a chwarae offerynnau, ac roedd y neuadd yn orlawn.  Diolch yn fawr i’r holl athrawon sydd wedi hyfforddi’r plant ar hyd yr wythnosau a diolch i Gareth Owen, Prifathro Ysogl Gynradd Pontyberem am arwain o’r llwyfan.  Gwelwyd ddeunydd arlunio plant yr ysgolion lleol ar hyd y neuadd, gyda Joanna ac Ioan Evans, Bancffosfelen wedi cael tasg anodd yn ôl safon gwaith y plant. Dyfarnwyd Tlws Colin ac Elizabeth Smith i’r cystadleuydd sydd â’r marciau uchaf, sydd i’w gadw am flwyddyn yn yr ysgol i Mared Thomas o Ysgol Pontyberem.

Yn hwyrach yn y prynhawn, cafwyd cystadlu agored o safon uchel iawn, gyda Joy Williams ac Iwan Rees yn arwain o’r llwyfan.

Yn y llun uchod gwelir Celyn Jones o Landdarog a fu’n cystadlu’n frwd yn yr eitemau agored.  Yn ei ochr mae’r beriniad cerdd sef Kym Morgans.

Yn y llun isod gwelir Meleri Morgan o Fwlchllan, Tregaron gyda Dr Lois Slaymaker Jones.  Bu Meleri yn cystadlu yn nifer o’r eitemau llefaru.

Cadair fechan a wnaed o bren oedd gwobr y bardd buddugol eleni a darn o waith manwl Damian Griffiths, Crwbin oedd hi. Cafwyd cystadlu brwd yng nghystadleuaeth y gadair, sef cerdd rydd neu gaeth heb fod dros 30 llinell ar y testun ‘Weithiau’.  Dyfarnodd Tudur Hallam, a arweiniodd y seremoni cadeirio, y gadair gyda chlod uchel i Hannah Roberts o Gaerdydd, a oedd yn bresennol ar y noson.  Dyma gadair gyntaf i Hannah i’w hennill ac roedd yn wên o glust i glust.  Cafwyd seremoni hyfryd, a chipiodd Hannah Roberts camp lawn gan mae ei cherdd hi oedd y gwaith gorau yn yr adran lenyddiaeth ac felly yn deilwng o Dlws Mr a Mrs John Emanuel.  Llongyfarchiadau Hannah!

Uchod – Tudur Hallam, y beirniad llenyddiaeth yn cyflwyno cadair fach i Hannah Roberts.

Llun uchod – y seremoni cadeirio

Llywydd yr Eisteddfod eleni oedd Mrs Elizabeth Morgan, gynt o Fancffosfelen.  Cafwyd anerchiad hyfryd gan Elizabeth a’r gynulleidfa yn rhoi cymeradwyaeth haeddiannol iddi.  Dyma lun ohoni isod.  Diolch Elizabeth.

Hoffai Pwyllgor yr Eisteddfod ddiolch i bawb a gefnogodd a noddodd yr Eisteddfod eleni i’w gwneud yn llwyddiant.

Dyma ganlyniadau’r dydd:

Adran yr ysgolion lleol

Unawd Blwyddyn 2 ag iau

1af. Fflur Roberts, Ysgol y Fro

2il. Elan Thomas, Ysgol Pontyberem

3ydd. Gruffydd Roberts, Ysgol Pontyberem

Llefaru Blwyddyn 2 ag iau

1af. Luke Williams, Ysgol Pontyberem

2il. Fflur Roberts, Ysgol y Fro

3ydd. Joshua Farnell, Ysgol Pontyberem

Unawd Blwyddyn 3 a 4

1af. Iestyn Richards, Ysgol y Fro

2il. Osian Davies, Ysgol Pontyberem

3ydd. Elis Nicholas, Ysgol Pontyberem

Llefaru Blwyddyn 3 a 4

1af. Cyran Ross, Ysgol Pontyberem

2il. Iestyn Richards, Ysgol y Fro

3ydd. Lowri Anderson, Ysgol Pontyberem

Unawd Blwyddyn 5 a 6

1af. Luke Rees, Ysgol y Fro

2il. Alaw Evans a Megan Evans, Ysgol Pontyberem

3ydd. Millie Butterfield a Maia Pickles, Ysgol y Fro

Llefaru Blwyddyn 5 a 6

1af. Alaw Evans, Ysgol Pontyberem

2il. Mared Thomas, Ysgol Pontyberem

3ydd. Anwen Price, Ysgol Pontyberem

Unawd ar biano/unrhyw offeryn cerdd arall

1af.  Alaw Evans, Ysgol Pontyberem

2il. Megan Evans, Ysgol Pontyberem

3ydd. Josh Dunning, Ysgol Pontyberem

Ysgrifennu i blant dan 12

1af. Mared Thomas, Ysgol Pontyberem

2il. Amber Prosser, Ysgol Pontyberem

3ydd. Keely Ross, Ysgol Pontyberem

Arlunio dosbarth derbyn

1af.  Elin Evans, Ysgol Pontyberem

2il. Hawis Thomas, Ysgol Pontyberem

3ydd. William Page, Ysgol y Fro

Arlunio Blwyddyn 1 a 2

1af. Jade Reynolds, Ysgol Pontyberem

2il. Scarlett Mackenzie Jones, Ysgol y Fro

3ydd. Imogen Cooper, Ysgol Pontyberem

Arlunio Blwyddyn 3 a 4

1af.  Isabel Trigwell-Jones, Ysgol y Fro

2il. Cerys Roberts, Ysgol Bancffosfelen

3ydd. Swyn Dafydd, Ysgol Bancffosfelen

Arlunio Blwyddyn 5 a 6

1af. Megan Evans, Ysgol Pontyberem

2il. Mared Thomas, Ysgol Pontyberem

3ydd. Alaw Evans, Ysgol Pontyberem

Arlunio Blwyddyn 5 a 6

1af. Megan Evans, Ysgol Pontyberem

2il. Mared Thomas, Ysgol Pontyberem

3ydd. Alaw Evans, Ysgol Pontyberem

Llawysgrifen i rai rhwng 10-12

1af. Mared Thomas, Ysgol Pontyberem

2il. Sharlotte Barber, Ysgol Pontyberem

3ydd. Farrah Livingston, Ysgol Bancffosfelen

Ffotograffiaeth i rai rhwng 8 a 12

1af. Tyler Evans, Ysgol Pontyberem

2il. Adam Davies, Ysgol Pontyberem

3ydd. Mared Thomas, Ysgol Pontyberem

Adran Agored

Unawd dan 6

1af. Iwan Rhys Bryer, Llanarthne

Llefaru dan 6

1af. Iwan Rhys Bryer, Llanarthne

Unawd 6 -8

1af. Megan Hedd Bryer, Llanarthne

2il. Ifan Knott, Bancycapel a Zara Evans, Tregaron

Llefaru 6 -8

Cydradd 1af. Cydradd 1af Zara Evans, Tregaron a Megan Hedd Bryer, Llanarthne

Unawd 8 – 10

1af. Emma Evans, Llannon

2il. Erin Aled, Llanuwchllyn

3ydd. Ellen Williams, Cwmffrwd a Luke Rees, Pontantwn

Llefaru 8 – 10

1af. Erin Aled, Llanuwchllyn

Unawd 10 -12

1af. Osian Knott, Bancycapel

2il. Celyn Jones, Llanddarog

Llefaru 10 -12

1af. Celyn Jones, Llanddarog

Canu emyn dan 12

1af. Emma Evans, Llannon

2il. Celyn Jones, Llanddarog

3ydd. Osian Knott, Bancycapel

Unawd ar biano dan 12

1af. Erin Aled, Llanuwchllyn

Unawd ar unrhyw ar unrhyw offeryn cerdd(ac eithrio’r piano) dan 14

1af.  Erin Aled, Llanuwchllyn Telyn

Unawd ar Biano dan 19

1af. Caryl Lewis, Maenclochog

Unawd dan 19

1af. Caryl Lewis, Maenclochog

Cân allan o sioe gerdd

1af. Caryl Lewis, Maenclochog

Llefaru dan 19

1af. Caryl Lewis, Maenclochog

2il. Meleri Morgan, Bwlchllan, Tregaron

Canu Emyn

1af. Caryl Lewis, Maenclochog

2il. Catherine Davies, Pontiets

Alaw Werin

1af. Celyn Jones, Llanddarog

Cân gyfoes Gymraeg

1af.  Caryl Lewis, Maenclochog

Her Unawd

1af. Caryl Lewis, Maenclochog

2il. Helen Pugh, Llandeilo

Her Adroddiad

1af. Meleri Morgan, Bwlchllan, Tregaron

2il. Caryl Lewis, Maenclochog

Cenwch i’m yr hen ganiadau

1af. Helen Pugh, Llandeilo

Adrodd Digri’

1af. Meleri Morgan, Bwlchllan, Tregaron

Adran Llenyddiaeth

Tlws yr Ifanc(dan 21) – Un o’r canlynol: Stori Fer, Dyddiadur, Cerdd neu Ysgrif

1af.  Siobhan Eleri, Caerfyrddin

Brawddeg ar y Gair – Brynceirios

1af. Megan Richards, Aberaeron

Cerdd rydd neu gaeth heb fod dros 30 llinell – Weithiau

1af. Hannah Roberts, Caerdydd

Cyfansoddi Emyn – Carol Nadolig

1af. Beryl Davies, Llanddewi Brefi

2il. Beti Wyn James, Caerfyrddin

Gorffen Limrig – ‘Gan wadu ei fod wedi meddwi’

1af. Alun Emanuel, Wrecsam

Llunio pedair dihareb newydd

1af. Alun Emanuel, Wrecsam

Englyn digri neu ddwys i unrhyw wleidydd

1af. J Beynon Phillips, Caerfyrddin

Cyfansoddi Cerddoriaeth i Emyn Buddugol Eisteddfod 2010

1af. Valmai Williams, Caernarfon