Mae Urdd Gobaith Cymru wedi cadarnhau mai Maldwyn fydd cartref Eisteddfod yr Urdd yn 2022, sef blwyddyn dathlu canmlwyddiant y mudiad.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd Glantwymyn neithiwr (nos Fercher, Mehefin 19).

Yn ôl y mudiad, mae trafodaethau yn parhau ynglŷn â lleoli’r Maes yn nhref Machynlleth ar y tir sy’n ymestyn o’r Ganolfan Hamdden a’r Plas, draw hyd at Barc Menter TreOwain.

Mae disgwyl y bydd yr ŵyl yn dod â £6m i’r economi leol a denu tua 90,000 o ymwelwyr rhwng Mai 30 a Mehefin 4 2022.

Dyma fydd y tro cyntaf i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Maldwyn ers 1988.

“Mesur y gefnogaeth”

Mae trefnwyr yr Eisteddfod eisoes wedi cynnal trafodaethau gyda Phwyllgor Rhanbarth Maldwyn a Chyngor Sir Powys, ac mae’r ddau’n gefnogol i’r syniad o wahodd yr ŵyl i Faldwyn.

Bwriad y cyfarfod yn Neuadd Glantwymyn oedd “mesur y gefnogaeth” yn lleol ac ymysg trigolion Rhanbarth Maldwyn.

“Bydd 2022 yn flwyddyn fawr i’r Urdd wrth i’r mudiad ddathlu canrif ers ei sefydlu gan Syr Ifan ab Owen Edwards yn 1922 ac mae’n wych medru cadarnhau y bydd Eisteddfod yr Urdd y flwyddyn honno yn dychwelyd i Faldwyn am y tro cyntaf ers 34 o flynyddoedd,” meddai Morys Gruffydd, Trefnydd yr Eisteddfod.

“Hoffwn ddiolch yn fawr i Gyngor Sir Powys, y Pwyllgor Rhanbarth a’r trigolion lleol am eu cefnogaeth barod i wahodd yr ŵyl i Faldwyn ac edrychwn ymlaen at gydweithio gyda chi yn y blynyddoedd nesaf.”