Xander Evans, disgybl Blwyddyn 11 yn Ysgol Gyfun Treorci, yw enillydd Ysgoloriaeth Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro eleni.

Mae’r ysgoloriaeth yn cael ei dyfarnu i’r unigolyn mwyaf addawol rhwng oedrannau Blwyddyn 10 ac 19 oed.

Fe ddaeth i’r brig yng nghystadlaethau Graffeg Gyfrifiadurol, Ffotograffeg / Graffeg Gyfrifiadurol, Gwehyddu, Mwgwd neu Byped ac Uned o waith Celf, ac fe gipiodd y drydedd wobr yn y gystadleuaeth Gemwaith.

“Mae cipio pum gwobr gyntaf mewn un Eisteddfod yn dipyn o gamp!” meddai Mair Davies, cadeirydd Bwrdd yr Eisteddfod.

“Roeddem fel Bwrdd wedi ein hysbrydoli gan waith amrywiol Xander yn y cystadlaethau Celf Dylunio a Thechnoleg ac mae’n llawn haeddu Ysgoloriaeth yr Eisteddfod eleni.”