Fe fydd cyfarfod cyhoeddus yn Aberaeron bythefnos i heno (nos Iau, Medi 20) i wahodd pobol i fod yn rhan o’r gwaith o drefnu prifwyl Ceredigion ymhen dwy flynedd.

Mae’r trefnwyr yn awyddus i ddenu unigolion o bob rhan o’r ardal i fod yn rhan o’r eisteddfod a fydd yn cael ei chynnal mewn caeau i’r gogledd o Dregaron yn ystod wythnos gyntaf Awst 2020.

“Mae cefnogaeth leol yn eithriadol o bwysig i lwyddiant yr Eisteddfod a’r gwaith a wneir ar lawr gwlad yn rhan ganolog o’r prosiect,” meddai Trefnydd yr Eisteddfod, Elen Elis,

“Mae’n anodd credu bod mwy na chwarter canrif wedi pasio ers i ni ymweld ag ardal Ceredigion, ac rydym yn edrych ymlaen at ddod â’r ŵyl yn ôl i ardal sydd bob amser wedi rhoi croeso cynnes iawn i’r Eisteddfod.

“Mae’r gweithgareddau cymunedol a’r gwaith allymestyn dros y ddwy flynedd nesaf yn greiddiol i amcanion yr Eisteddfod, a’r gobaith yw y gallwn ddenu criw mawr o wirfoddolwyr brwdfrydig, yn hen ffrindiau a wynebau newydd, i fod yn rhan o’r tîm y tro hwn.”

Fe fydd y gwaith yn dechrau bron yn syth, gan ddechrau rhoi’r Rhestr Testunau at ei gilydd o fewn ychydig wythnosau a chreu pwyllgorau apêl lleol ar draws y dalgylch i ddechrau ar y gwaith o drefnu gweithgareddau a chodi arian.