Mae “synnwyr cyffredin” yn dweud y dylai arian cyhoeddus gael ei neilltuo a’i wario ar wersi Cymraeg i ffoaduriaid.

Dyna yw barn Nia Edwards-Behi, ymgyrchydd hawliau ffoaduriaid a fydd yn cadeirio sgwrs ar y mater ym mhabell Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“I mi mae’r syniad o roi gwersi Cymraeg, yn yr un ffordd ag y byddech yn rhoi gwersi Saesneg, yn beth amlwg ac yn sylfaenol,” meddai wrth golwg360.

“Achos os maen nhw wedi cael eu lleoli yng Nghymru, pam ddim? Mae’n iaith swyddogol, felly pam na ddylen nhw.”

Yn cymryd rhan yn y cyfarfod brynhawn ddydd Mawrth (Awst 7), bydd yr academydd Dr Gwennan Higham, a Matt Spry, dyn sy’n rhoi gwersi Cymraeg yng Nghaerdydd i ffoaduriaid.

Bydd sawl un o ddisgyblion y tiwtor hefyd yn cymryd rhan, gan gynnwys George Baptiste sy’n wreiddiol o orllewin Affrica.

George Baptiste

Wedi pum mis a hanner o fyw yng Nghaerdydd, a phedwar mis a hanner yn dysgu Cymraeg, mae ef bellach yn rhugl yn y Gymraeg.

Dyw dysgu’r Gymraeg ddim wedi bod yn anodd meddai – mae eisoes yn siarad chwe iaith arall – ond mae diffyg tiwtoriaid yn destun pryder iddo.

“Mae Cymraeg yn bwysig i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, achos rhaid iddyn nhw integreiddio gyda’r gymuned Gymraeg,” meddai wrth golwg360.

“Ond dw i’n meddwl bod angen mwy o diwtoriaid arnom ni achos pan mae Matt Spry ar wyliau, does neb ar gael i ddysgu Cymraeg.”

“Gwylltio”

Wrth dynnu sylw yn ôl at y sgwrs, mae Nia Edwards-Behi yn nodi bod y sefyllfa yn “drueni”. Mae ‘na faterion ehangach i’w trafod, meddai.

“Beth sy’n fy ngwylltio i fwya’ ydy’r ffaith ein bod ni’n gorfod cael sgwrs fel hyn am y peth,” meddai.

“[A hynny] pan mae ‘na gymaint o faterion eraill yn ymwneud â ffoaduriaid â cheiswyr lloches yng Nghymru ac ym Mhrydain – dros y byd – sydd mewn ffordd yn bwysicach.”